Neidio i'r prif gynnwy

Mae cofrestru ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 bellach ar agor!

Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd.

Y gynhadledd flynyddol yw'r digwyddiad blynyddol traws-sector mwyaf ym maes iechyd cyhoeddus lle mae'r sgyrsiau'n cynnwys pob rhan o Gymru'n dod at ei gilydd i rannu syniadau a phrofiadau.

‘Adeiladu Dyfodol Iachach i Gymru’ yw ein thema eleni a'n nod yw eich ysbrydoli i ganolbwyntio ar y ffactorau sy'n ysgogi iechyd a llesiant sy'n mynd y tu hwnt i ofal iechyd. Bydd gennym arbenigwyr y diwydiant i'ch cyffroi a'ch cynnwys chi, gan roi lle i chi brofi, meddwl, rhwydweithio, trafod a chreu atebion diriaethol go iawn i ddatblygu cyfleoedd na ellir eu colli ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.

Dros ddeuddydd, byddwn yn arddangos yr ymchwil ddiweddaraf, yn clywed enghreifftiau o'r hyn sy'n gweithio'n dda yma a thramor, ac agor trafodaeth heriol, adeiladol ynghylch beth sydd angen digwydd i symud o syniadau i weithredu.

Gallwch hefyd ymuno â'r digwyddiad Facebook i gael diweddariadau, cyhoeddiadau siaradwyr ac i siarad â chynrychiolwyr eraill.

Dysgwch ragor a chofrestru ar gyfer eich lle yng nghynhadledd eleni.


Arddangoswyr/Noddwyr

Mae Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfle perffaith i osod eich sefydliad ochr yn ochr â siaradwyr dynamig a chydweithwyr sy'n ymroddedig i wella iechyd a dyfodol Cymru.

Os hoffech ymuno yn y sgwrs ynghylch adeiladu ar ein cryfderau ar gyfer dyfodol cynaliadwy fel noddwr neu arddangoswr swyddogol cysylltwch ag Allison Pinney Collis, Rheolwr Cyfathrebu.