Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdy cyntaf iechyd rhywiol mewn carchardai

Cynhaliodd y tîm Diogelu Iechyd ei weithdy cyntaf erioed ar ddarpariaeth iechyd rhywiol yng ngharchardai Cymru y mis diwethaf. 

Aeth cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd Bae Abertawe, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf ac Aneurin Bevan, yn ogystal â CEM Abertawe, CEM Caerdydd a CEM Berwyn i'r digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. 

Hwn oedd y tro cyntaf i weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd rhywiol ac iechyd carchardai gyfarfod yn genedlaethol, ac yn y gweithdy gwnaethant gydweithio i benderfynu ar bwyntiau gweithredu i'w datblygu yn eu byrddau iechyd priodol.  

Canolbwyntiodd y trafodaethau ar yr argymhellion o'r gwaith i Adolygu Iechyd Rhywiol yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru a nododd anghydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd rhywiol mewn carchardai a'r rhai sydd ar gael yn y gymuned. 

 

Canfu'r adolygiad fod llawer o bobl yn y carchar yn profi amseroedd amser hwy wrth gael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol. Canfu hefyd nad oes ganddynt yr un lefel o fynediad i'r dulliau gwahanol o brofi sydd ar gael mewn clinigau cymunedol ledled Cymru. 

Un o’r prif bwyntiau gweithredu o'r gweithdy oedd galwad am hyfforddiant mwy cyson ym maes gofal iechyd carchardai a staff gwarchodol ynghylch heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. 
Ymhlith y cyflwyniadau a gynhaliwyd ar y diwrnod roedd:

•    Clamydia a Gonorea gan Dr Rachel Drayton, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Genhedlol-wrinol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro;
•    Rheoli HIV yn Lleoliad y Carchar gan Stewart Attridge, Uwch-ymarferydd Nyrsio mewn HIV;
•    Nodi a Thrin Siffilis gan Linda Furness, Cynghorydd Iechyd Rhywiol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Gwnaeth cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru Christie Craddock a Zoe Couzens hefyd gyflwyno ar yr Adolygiad o Iechyd Rhywiol yng Nghymru a chasglu data ar wasanaethau iechyd rhywiol mewn carchardai. 

Mae'r gweithdy'n nodi sefydlu rhwydwaith o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd rhywiol mewn carchardai. Wrth symud ymlaen bydd y rhwydwaith yn ceisio gwella cyfathrebu rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at ddibenion addysg, rhannu arfer da ac atgyfeirio cleifion.

Meddai Christie Craddock, Arweinydd y Prosiect ar gyfer Iechyd Rhywiol mewn Carchardai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Galluogodd y gweithdy hwn i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd rhywiol mewn carchardai yng Nghymru i gwrdd â'i gilydd a dechrau datblygu perthnasoedd gwaith cefnogol. 

“Bydd y perthnasoedd hyn yn galluogi trafodaeth fwy effeithiol ynghylch argymhellion yr Adolygiad o Iechyd Rhywiol, yn ogystal â darparu mwy o gymorth i'w rhai sy'n gweithio i wella arfer clinigol yn lleoliad y carchar.”

Roedd y gweithdy hefyd yn gosod y llwyfan ar gyfer y cynllun peilot arfaethedig ar gyfer hunanbrofi clamydia a gonorea ar draws tri safle carchar yng Nghymru, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r dull hunanbrofi yn ceisio gwella mynediad i sgrinio heintiau a drosglwyddir yn rhywiol i'r rhai yn y carchar a chaiff ei werthuso am ei effeithiolrwydd o ran cynyddu'r capasiti i gynnal profion yn ogystal â pha mor dderbyniol ydyw i gleifion.