Neidio i'r prif gynnwy

Effaith Brexit ar Iechyd: y risgiau o effaith niweidiol yn cynyddu a'r cyfleoedd am effaith gadarnhaol yn parhau heb eu newid

Mae adroddiad newydd yn edrych ar y dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg ers mis Ionawr am effaith bosibl ar fywyd go iawn y gallai Brexit ei chael ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru, oherwydd bod y siawns o Brexit heb gytundeb ar 31 Hydref wedi cynyddu.

Mae'n canfod bod y tebygolrwydd o effeithiau cadarnhaol wedi parhau'n gymharol sefydlog ers dadansoddiad blaenorol ym mis Ionawr. Yn y cyfamser, mae'r tebygolrwydd o rai effeithiau negyddol, fel y rhai sy'n ymwneud â safonau bwyd neu reoliadau amgylcheddol, wedi cynyddu. 

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi effeithiau cadarnhaol a negyddol newydd posibl yn sgil Brexit, fel cyfleoedd i gynyddu allforion yn sgil gostyngiad yng ngwerth y bunt, ac effaith negyddol ar iechyd meddwl a llesiant dinasyddion. 

Mae’r adroddiad yn adeiladu ar ddadansoddiad manwl, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Ionawr 2019, ac mae'n trafod effeithiau posibl Brexit ar iechyd a llesiant tymor byr, tymor canolig a hirdymor pobl sy'n byw yng Nghymru. Mae'r adroddiad gwreiddiol a'r diweddariad yn edrych ar debygolrwydd a dwyster unrhyw effeithiau a chyfleoedd cadarnhaol posibl, yn ogystal ag effeithiau negyddol posibl.

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Wrth i ni weld digwyddiadau yn San Steffan a Brwsel, mae'n hawdd anghofio bod Brexit yn fwy na phroblem wleidyddol – mae’n fater sydd eisoes yn effeithio ar fywydau llawer o bobl yng Nghymru a bydd yn cael effaith sylweddol ar lawer mwy.  Dyna pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi cynnal dau asesiad o sut y gallai Brexit effeithio ar iechyd a llesiant pobl sy'n byw yng Nghymru. Mae ein Hasesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn cymryd golwg gytbwys a diduedd ar effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl gadael yr UE.

“Mae ein hasesiad diweddaraf yn dangos fawr ddim tystiolaeth o newid yn y tebygolrwydd o effeithiau cadarnhaol ers ein dadansoddiad diwethaf ym mis Ionawr.  Ar y llaw arall, rydym wedi gweld y tebygolrwydd o ganlyniadau negyddol eraill posibl yn cynyddu.”

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adolygiad ynghylch yr effaith bosibl ar benderfynyddion iechyd, a grwpiau poblogaeth a nodwyd:

•    Safonau bwyd – mae'r tebygolrwydd o effaith negyddol fawr wedi cynyddu o fod yn 'bosibl' i 'debygol'
•    Rheoliadau amgylcheddol h.y. ansawdd aer, ansawdd dŵr ymdrochi – mae'r tebygolrwydd o effaith negyddol fawr wedi cynyddu o fod yn 'bosibl' i 'debygol'

Er bod yr adroddiad yn canfod rhai effeithiau cadarnhaol posibl ar bobl sy'n byw ar incwm isel (o ganlyniad i ostyngiadau posibl mewn prisiau tai) a pherchnogion a chyflogwyr busnesau bach sy'n mewnforio neu'n allforio nwyddau a gwasanaethau, mae hefyd yn nodi nifer o effeithiau negyddol posibl. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys:

•    Effaith economaidd oherwydd newidiadau mewn mewnfudo
•    Mynd i'r afael â chyffuriau anghyfreithlon
•    Iechyd meddwl
•    Gwasanaethau cymunedol a'r trydydd sector
•    Pobl ag amrywiaeth o anableddau
•    Ffermwyr a chymunedau gwledig
•    Pobl sy'n cael eu cyflogi mewn sectorau sy'n agored i newidiadau mewn telerau masnach gyda'r UE e.e. rhai sectorau gweithgynhyrchu

Meddai Liz Green, Cyfarwyddwr y Rhaglen Asesu'r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r dadansoddiad hwn yn rhan o'n gwaith parhaus i asesu effeithiau bywyd go iawn Brexit ar iechyd a llesiant unigolion a chymunedau yng Nghymru.  Dylid ei ystyried ochr yn ochr â'r Asesiad o'r Effaith ar Iechyd blaenorol ym mis Ionawr, ac adroddiad mwy diweddar Cefnogi Cymunedau Ffermio ein Tîm Ymchwil a Gwerthuso ynghylch pryderon yn y sector ffermio am ddyfodol y diwydiant.

“Gyda'n dadansoddiad blaenorol ym mis Ionawr, gwnaethom dynnu sylw at yr angen am weithredu er mwyn manteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd ar gyfer gwella iechyd a llesiant yng Nghymru ar ôl Brexit, yn ogystal â lliniaru neu atal unrhyw effeithiau negyddol neu ganlyniadau anfwriadol.  Mae'r dadansoddiad newydd hwn yn dangos fawr ddim tystiolaeth o newid yn y tebygolrwydd o effeithiau cadarnhaol, ac mae'r tebygolrwydd o ganlyniadau negyddol posibl eraill wedi cynyddu.”

Gyda'r cynnydd yn nifer y penderfynyddion iechyd yr effeithir arnynt gan Brexit, mae'r adroddiad yn argymell camau gweithredu yn y meysydd ychwanegol hyn, gan gynnwys ymchwil bellach i ddeall yn llawnach effaith Brexit wrth iddo ddigwydd a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal, mae canfyddiadau'r adolygiad yn awgrymu er y bydd Brexit yn effeithio ar y boblogaeth gyfan yn gyffredinol, gallai fod grwpiau poblogaeth a allai gael eu heffeithio'n benodol gan Brexit, er enghraifft, pobl sy'n oedrannus ac sydd â chyflyrau cronig neu anableddau, sydd angen mynediad i feddyginiaeth a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ac a allai fod ar incwm isel. Bydd poblogaethau o'r fath yn fwy agored i effeithiau unrhyw effeithiau negyddol Brexit fel pwysau chwyddiant ar fwyd a thanwydd, cyflenwi meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol a phroblemau staffio a wynebir gan y gwasanaethau y maent yn cael mynediad iddynt. Mae'r adroddiad yn awgrymu bod ymchwil bellach ac ymgysylltu gweithredol â grwpiau agored i niwed yn hanfodol i ddatblygu ffyrdd o ddiogelu eu hiechyd a'u llesiant beth bynnag fo canlyniad terfynol Brexit.

Roedd yr adroddiad gwreiddiol yn cynnwys naw cam a argymhellwyd ar gyfer cyrff cyhoeddus, sefydliadau ac asiantaethau yng Nghymru. Mae'r rhain yn parhau i fod yn berthnasol a gellir eu canfod, ynghyd â'r adroddiad yn ei gyfanrwydd, ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad newydd, Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd – adolygiad cyflym a diweddariad, ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Adroddiad