Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2019!

Cyflwynwyd naw gwobr i sefydliadau ledled Cymru am eu gwaith arloesol sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau pobl Cymru.

Mae rhai o’r prosiectau buddugol yn cynnwys Rhwydwaith Gofal Clefyd Niwronau Motor, Gwasanaeth Rheoli’r Risg o Drawma a’r ‘Dream Team’ Anableddau Dysgu.

Daeth yr enillwyr o bob rhan o Gymru ac enillodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru Wobr Cyfraniad Eithriadol at Drawsnewid Iechyd a Gofal.Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething,

“Bob blwyddyn, rwy’n cael fy ngorlethu gan ymroddiad, dyfeisgarwch ac egni staff i GIG i wneud newid cadarnhaol ar ran pobl Cymru. Gan ystyried yr ansicrwydd digynsail rydyn ni’n byw drwyddo, mae’r angen am obaith ac ysbrydoliaeth yn fwy nag arfer. Mae’r gwobrau’n dathlu eich ymroddiad a’ch gwaith caled. Hoffwn longyfarch pob un o’r enillwyr a’r rheiny a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol. Diolch am barhau i fod yn ffagl gobaith ac ysbrydoliaeth.”

Cyrhaeddodd 24 o brosiectau’r rowndiau terfynol, a dyma’r naw buddugol yng Ngwobrau GIG Cymru 2019:

Cyflwyno iechyd a gofal gwerth uwch

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Cyflwyno Troedio’n Iach, dull partneriaeth gyda Phodiatreg a’r Rhaglen Addysg i Gleifion (EPP) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda  

Cyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

•    Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn Rhai Brys, Gwasanaeth Cludo Cyflym Gofal Diwedd Oes Gwasanaethau Ambiwlans Cymru  

Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Y ‘Dream Team’ Anableddau Dysgu  

Cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal

•    Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Gwasanaeth Rheoli’r Risg o Drawma 

Gwella iechyd a lles

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Cyngor Abertawe - Lleihau Effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yng Nghlwstwr Penderi, gan arwain at gyflwyno ac adolygu ‘Gwasanaeth lles Plant a Theuluoedd mewn Gofal Sylfaenol’ 

Gwella diogelwch cleifion

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - #ShareforcareWales: Lleihau Briwiau Pwyso a Gafwyd o Ofal Iechyd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan  

Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ledled GIG Cymru

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro; Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Rhwydwaith Gofal Clefyd Niwronau Motor De Cymru

Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector

•    Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda; MIND Cymru; yr Adran Gwaith a Phensiynau - Gweithio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Galwedigaethol i Unigolion yn y Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis

Cyfraniad eithriadol at drawsnewid iechyd a gofal

  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn Rhai Brys, Gwasanaeth Cludo Cyflym Gofal Diwedd Oes Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 
Caiff Gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, ac fe’u lansiwyd yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed, a chydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru.

Noddwyd y gwobrau eleni gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ABPI.

I ddarllen mwy am yr enillwyr, ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk