Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir Ddydd Iau 25 Gorffennaf 2019

Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.  

Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 25 Gorffennaf am 9.00am ym Mhrifysgol De Cymru, Campws Casnewydd.

Bydd Jan Williams, OBE yn cadeirio'r cyfarfod, a fydd yn cael ei ffrydio'n fyw drwy gyfryngau cymdeithasol.  Mae'r agenda yn dangos yr hyn a fydd yn cael ei drafod a phryd.  Mae'r papurau ar gael ymlaen llaw a gallwch eu gweld yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynychu'r cyfarfod, neu os ydych yn bwriadu mynychu a bod gennych unrhyw ofynion arbennig y dylid eu hystyried, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 104283.

Bydd cyfarfod Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddilyn gan y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno diweddariad ar gynnydd 2018/19 a bydd yn rhannu'r adroddiad blynyddol, cyfrifon ariannol a'n datganiad ansawdd blynyddol.

Mae'n gyfle hefyd i gwrdd ag aelodau o'n Bwrdd a chlywed am ein gwaith. Bydd sesiwn holi ac ateb hefyd.

Mae rhagor o fanylion am y cyfarfod cyffredinol blynyddol ar gael ar y dudalen we ganlynol: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae rhagor o fanylion am Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael ar y wefan ganlynol: https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd-ar-tim-gweithredol/papuraur-bwrdd/