Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd y llengfilwyr ym Mro Morgannwg

Mae cyflogwyr ac aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hatgoffa o'r camau y gallant eu cymryd i leihau'r risg o glefyd y llengfilwyr wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau partner ymchwilio i nifer uwch nag arfer o achosion sydd wedi dod i'r amlwg ym Mro Morgannwg dros y deg mis diwethaf.

Ymchwiliwyd yn helaeth i naw achos. Nid oes tystiolaeth bod cysylltiad rhwng unrhyw rai o'r achosion hyn, ac mae gan y rhan fwyaf ffactorau risg unigol ar gyfer dal eu haint, gan gynnwys rhai gyda theithio dramor.

Fodd bynnag, fel mesur rhagofalus mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau partner yn cynghori cyflogwyr i wirio eu polisïau ac arferion clefyd y llengfilwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio wrth i ni symud i mewn i fisoedd yr haf pan fo clefyd y llengfilwyr yn aml yn fwy cyffredin.

Gall aelodau o'r cyhoedd leihau'r risg o glefyd y llengfilwyr drwy fynd ati'n rheolaidd i fflysio neu dynnu tapiau a phennau chawodydd nad ydynt yn cael eu defnyddio, draenio tanceri dŵr a phibelli dŵr gardd os nad ydynt yn cael eu defnyddio, a defnyddio deunydd golchi sgriniau masnachol yn eu cerbydau.

Dywedodd Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: 
“Mae clefyd y llengfilwyr yn salwch prin ond un sy'n gallu peryglu bywyd.  Mae pobl yn cael eu heintio pan fyddant yn mewnanadlu bacteria clefyd y llengfilwyr sy'n cael ei ledaenu drwy'r aer ar ffurf anwedd neu ddefnynnau o ffynhonnell ddŵr halogedig. Ni ellir trosglwyddo clefyd y llengfilwyr o un person i un arall.”

“Mae'r rhan fwyaf o achosion o glefyd y llengfilwyr y rhoddir gwybod inni amdanynt yn achosion ysbeidiol, ond mae clystyru heb ei esbonio yn digwydd o bryd i'w gilydd. Gyda'n partneriaid awdurdod lleol, rydym yn ymchwilio i bob achos yn fanwl pan roddir gwybod amdano, ac ar yr un pryd rydym yn chwilio am unrhyw gysylltiadau posibl ag achosion eraill yn yr ardal. Os yw'n bosibl, rydym hefyd yn anfon samplau o'r rhai yr effeithiwyd arnynt ar gyfer eu profi. Mae canlyniadau samplau a gawsom hyd yma yn wahanol, gan awgrymu nad oes cysylltiad rhwng yr achosion a brofwyd.”

“Ar gyfartaledd, mae tua 30 o achosion o glefyd y llengfilwyr yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu lledaenu ledled Cymru.  Eleni cafwyd 10 achos o glefyd y llengfilwyr ledled Cymru hyd yma, ac mae dau o'r rhain wedi bod ym Mro Morgannwg. Yn 2018, roedd saith achos yn yr ardal hon.”

“Rydym yn monitro'r sefyllfa hon yn ofalus, yn parhau i ymchwilio i achosion, a byddwn yn cadw golwg ar statws yr achos hwn.”