Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn rhan o Ddiwrnod Aer Glân 2019

Eleni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cytuno i gefnogi Diwrnod Aer Glân 2019, a gynhelir ar 20 Mehefin.

Bwriad menter Diwrnod Aer Glân yw codi ymwybyddiaeth o lygredd aer a’r problemau y gall achosi. Llygredd aer yw un o’r peryglon amgylcheddol pennaf i iechyd. Gall gynyddu’r perygl o rai problemau iechyd a gwneud problemau iechyd presennol yn waeth, ond mae rhai camau ymarferol y gallwn i gyd eu cymryd i wella ansawdd aer.

Mae llygredd aer yn fater i bawb. Fel sefydliad, gallwn chwarae rôl allweddol yn helpu i leihau llygredd aer a’r peryglon iechyd a’r anghydraddoldebau sydd yn gysylltiedig ag ef. Er enghraifft, os yw pawb sydd yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cerdded neu’n beicio i’r gwaith am un diwrnod yr wythnos, gallai hyn helpu i leihau allyriadau o ffynonellau trafnidiaeth. Gall rhoi’r gair ar led a helpu pobl eraill i newid eu hymddygiad wneud gwahaniaeth mawr; gall newidiadau bach gael effaith fawr pan fydd y boblogaeth gyfan yn cymryd rhan.

Eleni, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Gweithredu Byd-eang (yr elusen amgylcheddol sydd yn berchen y brand Diwrnod Aer Glân) i ddatblygu adnoddau a chodi ymwybyddiaeth o broblemau ac atebion.  

Rydym wedi:
•    Creu posteri sydd yn amlygu camau ymarferol, syml y gallwn i gyd eu cymryd i leihau llygredd aer. Edrychwch ar y rhain pan fyddant yn mynd o gwmpas eich swyddfeydd ac ar wefan Diwrnod Aer Glân.
•    Creu clipiau fideo byr yn disgrifio llygrwyr aer, ffynonellau, peryglon a chamau lleddfu, ac wedi dangos enghreifftiau o deithio gwyrdd o fewn/ar draws PHW
•    Cytuno i rannu ac ail-drydar negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol o dan arweiniad y Llywodraeth
•    Wedi paratoi cwis rhyngweithiol ar y cyfryngau cymdeithasol (i’w gynnal ar y diwrnod)
•    Wedi trefnu digwyddiad beicio amser cinio ar gyfer staff PHW yn CQ2, Caerdydd.

Mae ymgyrch Diwrnod Aer Glân wedi creu cyfres o gardiau addewid gyda syniadau defnyddiol am yr hyn y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth a lleihau ein heffaith ar lygredd aer yn ystod #DiwrnodAerGlân

Trydarwch lun ohonoch chi gyda’ch addewid a pheidiwch anghofio cynnwys yr hashnodau isod. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau eraill ynghylch sut i leihau ein heffaith ar lygredd aer neu os ydych yn cynllunio unrhyw ddigwyddiadau lleol, cysylltwch i roi gwybod i ni gan ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodAerGlânPHW a #DiwrnodAerGlân

Am fwy o wybodaeth am yr hyn y mae Cymru’n ei wneud ar gyfer Diwrnod Aer Glân 2019 ewch i: