Neidio i'r prif gynnwy

Archebwch eich lle yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol 2019

Bellach, gellir cofrestru ar gyfer y 4edd Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol a gynhelir yn y Ganolfan Gynadledda Genedlaethol yng Nghasnewydd ddydd Iau 7 Tachwedd 2019.

Thema'r gynhadledd eleni yw Clystyrau: y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys Dr Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru), yr Athro Helen Stokes-Lampard (Cadeirydd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol) a Judith Paget (Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan).

Bydd Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, hefyd yn annerch y gynhadledd.

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, ond gofynnir i unrhyw un a hoffai ei fynychu gofrestru ar-lein.

Bydd y rhai sy’n mynychu hefyd yn cael cyfle i ddewis dau weithdy i gymryd rhan ynddynt pan fyddant yn cofrestru.

Mae’r Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol yn ddigwyddiad blynyddol a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan Gofal Sylfaenol.

Mae’n anelu at roi cyfle i bobl broffesiynol sy’n gweithio ledled system gofal sylfaenol a chymunedol Cymru ddod ynghyd i rannu eu profiadau, i ddysgu gan gydweithwyr ac i rwydweithio. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y gynhadledd, cysylltwch â PrimaryCare.One@wales.nhs.uk