Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod – Adolygu tystiolaeth

Mae cyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar y cyd ag Uned Gydweithredu Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor, wedi creu adroddiad newydd ‘Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod’.

Mae’r adroddiad newydd, a ddatblygwyd gan Dr Lisa Di Lemma, yn archwilio tystiolaeth ar draws amrywiaeth o raglenni sy’n ymateb i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE).  Edrychodd yr adroddiad ar raglenni ac ymyriadau ar gyfer 11 math unigol o ACE, ac ACE fel term cyffredinol, i nodi ymagweddau cyffredin ar draws rhaglenni.

Mae Dr Alisha Davies, Pennaeth ymchwil i’r gyfarwyddiaeth, yn esbonio:

“Nid oes un ymyrraeth neu ymagwedd unigol sydd yn mynd i’r afael â chymhlethdod ACE. Trwy ddod â sail dystiolaeth estynedig a chymhleth ynghyd, rydym wedi defnyddio saith thema allweddol o lenyddiaeth sydd yn gyffredin ac yn bwysig o ran atal a lleddfu’r niwed yn sgil trallod yn ystod cwrs bywyd”.

Adlewyrchodd Dr Davies hefyd:

“Nid yw’r adroddiad hwn yn adolygiad systematig trylwyr o’r ymyriadau ar gyfer mathau penodol o ACE, nac yn eirioli unrhyw ymyrraeth benodol, ond mae’n cyflwyno crynodeb o’r dystiolaeth ymchwil ar ymagweddau cyffredin.

Cafodd y rhan fwyaf o’r rhaglenni hyn eu datblygu yn UDA, felly er eu bod yn ymddangos fel pe baent yn cyflawni canlyniadau addawol, bydd angen ‘trosi’ y canlyniadau hyn i gyd-destun y DU cyn y gellir eu gweithredu”.

Daw Dr Davies i’r casgliad:

“Mae cymhlethdod ACE ar draws cwrs bywyd yn her anodd a phwysig i fynd i’r afael â hi, ac yn un sydd angen ymateb sy’n ymestyn ar draws sectorau a chenedlaethau. Ein gobaith yw y bydd yr adroddiad hwn yn adnodd defnyddiol i gefnogi arloesi a datblygiad tuag at ddyfodol sydd yn rhydd rhag ACE.”

Mae ACE yn ddigwyddiadau llawn straen sydd yn digwydd yn ystod plentyndod. Gall y rhain gynnwys dioddef cam-drin corfforol neu rywiol, neu gael eich magu ar aelwyd lle mae camddefnyddio alcohol neu sylweddau, trais domestig, salwch meddwl ac aelod o’r teulu yn y carchar. Mae tua hanner poblogaeth Cymru wedi dioddef o leiaf un ACE.

Mae unigolion sydd wedi profi pedwar ACE neu fwy â pherygl uwch o ddioddef yr effeithiau niweidiol sydd yn gysylltiedig ag ACE.  Mae astudiaethau ACE yng Nghymru wedi nodi graddfa’r peryglon hyn ar gyfer y rheiny â phedwar ACE neu fwy o’u cymharu â’r rheiny â dim i fod:

  • Bedair gwaith yn fwy tebygol o yfed ar raddfa risg uchel
  • Chwe gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael triniaeth am salwch meddwl
  • Chwe gwaith yn fwy tebygol o fod yn smygwr
  • Pymtheg gwaith yn fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â thrais, ac
  • Ugain gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu carcharu

I lawrlwytho copi o’r adolygiad llawn o’r dystiolaeth, cliciwch y dolleni yma:

Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod: Appendix 3 Summary of Evidence (Saesneg yn unig)

Am fwy o wybodaeth am Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, ewch i:

www.publichealthwales.org/ACES a https://www.aceawarewales.com/