Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf am yr Ymarfer Sgrinio Cymunedol TB yn Llwynhendy – Dydd Gwener 7 Mehefin 2019

Mae'r ymarfer sgrinio cymunedol twbercwlosis yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach wedi dod i ben.

Yn ystod yr ymarfer tri diwrnod, cafodd fwy nag 1400 o bobl eu profi ar gyfer TB.

Ysgrifennir at gleifion yn unigol gyda'i ganlyniadau prawf gwaed erbyn diwedd y mis hwn. Ar yr adeg honno, caiff unrhyw gleifion y mae angen sylw pellach arnynt eu gwahodd i fynd i glinig cleifion allanol i drafod y canlyniadau ac unrhyw brofion neu driniaeth bellach.

Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r ymateb cymunedol i'r ymarfer sgrinio wedi bod yn wych. 

“Mae'r staff sy'n gwneud y sgrinio yn dweud wrthym mai dyma'r nifer uchaf o bobl y maent wedi'u sgrinio erioed yn yr amser a oedd ar gael, sy'n dyst i'r ffaith bod pawb dan sylw wedi gweithio i sicrhau proses esmwyth i aelodau o'r gymuned a ddaeth i gael eu sgrinio.”

Yn dilyn y galw uchel am y sgrinio, cafodd un sesiwn sgrinio ei hymestyn a darparwyd sesiwn ychwanegol ddydd Iau yr wythnos hon.