Neidio i'r prif gynnwy

Y cyfle olaf i gofrestru eich lle i fynychu 16eg Cynhadledd Imiwneiddio Cymru

Mae’r cofrestru’n cau yr wythnos yma a dim ond ychydig o lefydd sydd ar gael erbyn hyn. Archebwch eich lle.  

Cardiff City Hall VPDP ConferenceFfi’r gynhadledd yw £15, sy’n cynnwys paned a chinio. Bydd y cofrestru’n cau ddydd Gwener 5ed Ebrill 2019.

Bydd y diwrnod yn agor gyda phrif araith gan yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Bydd y gynhadledd yn dod â siaradwyr arbenigol cenedlaethol a rhyngwladol at ei gilydd i roi cyflwyniadau ar bynciau’n cynnwys brechu a phlant ag imiwnedd gwan, dileu’r frech goch, yr eryr, lleihau rhwystrau sy’n atal imiwneiddio ar gyfer pobl ifanc a llawer, llawer mwy.

I weld y rhaglen lawn, ewch i hafan y gynhadledd.

Os ydych chi neu unrhyw rai o’ch cydweithwyr wedi bod yn rhan o fenter neu brosiect sy’n gysylltiedig ag imiwneiddio, beth am gyflwyno crynodeb ar gyfer ei gyflwyno yn y gynhadledd eleni. Mae’n gyfle rhagorol i rannu eich gwaith gyda chydweithwyr ledled Cymru. Bydd talebau’r stryd fawr yn cael eu dyfarnu i’r posteri gorau a gyflwynir, gwobr 1af o £40 ac 2il wobr o £20.

Ewch i hafan y gynhadledd am ragor o arweiniad.

Mae Cynhadledd Imiwneiddio Cymru’n cefnogi Wythnos Imiwneiddio Ewrop ar y cyd â mentrau rhanbarthol eraill Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n cael ei chynnal rhwng 24ain a 30ainEbrill 2019 a slogan yr wythnos yw “Atal. Gwarchod. Imiwneiddio”.

Eleni mae’r ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fanteision brechiadau a dathlu “arwyr brechu” sy’n cyfrannu mewn cymaint o ffyrdd at warchod drwy frechu. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Wythnos Imiwneiddio Ewrop.