Mae angen dull iechyd cyhoeddus i atal eithafiaeth dreisgar

Mae angen gwneud mwy i ddeall y daith sy'n peri unigolion i gyflawni gweithredoedd o eithafiaeth dreisgar.

Mae Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Dull Iechyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig) yn annog gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau risg ehangach ar gyfer ymwneud ag eithafiaeth dreisgar sy'n aml wedi'u cuddio y tu ôl i drafodaethau am wleidyddiaeth, hil a chrefydd.

Yn y cyhoeddiad cyntaf o'i fath yn y DU, mae Cyfadran Iechyd y Cyhoedd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlinellu pam y mae'n rhaid i ni weithio'n galetach i ddeall materion sylfaenol sy'n hyrwyddo bod yn agored i eithafiaeth dreisgar, megis trawma mewn plentyndod, iechyd meddwl gwael, arwahanrwydd cymdeithasol, rhagfarn ac annhegwch, a mynd i'r afael â'r materion sylfaenol hyn.

Yn seiliedig ar astudiaethau o bob rhan o'r byd ac ymgynghori ag arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus a chyfiawnder troseddol, mae'r adroddiad yn cydnabod y rôl bwysig y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ei chwarae o ran atal gweithgarwch y rhai sy'n cynllunio gweithredoedd terfysgol eisoes.

Fodd bynnag, mae'n nodi angen dybryd i fonitro sut y mae polisïau i fynd i'r afael â, nid yn unig eithafiaeth dreisgar, ond materion fel anghydraddoldeb, integreiddio ac iechyd a llesiant i gyd yn gallu effeithio ar gefnogaeth ar gyfer gweithgarwch treisgar mewn cymunedau gwahanol a'r gallu i wrthod y gweithgarwch hwn.

Mae canfyddiadau o'r adroddiad yn nodi amrywiaeth o ffactorau unigol a chymunedol a allai ragweld yn well y risgiau o eithafiaeth dreisgar. Mae’r rhain yn cynnwys trawma plentyndod cynnar a straen cronig, arwahanrwydd cymdeithasol a diffyg perthyn, anoddefgarwch o ran amrywiaeth ac annhegwch economaidd-gymdeithasol. Mae'r adroddiad yn nodi ei bod yn syndod cyn lleied o waith sydd wedi'i wneud i ddeall sut y mae'r ffactorau hyn wedi effeithio ar gwrs bywyd y rhai sydd eisoes yn ymwneud ag eithafiaeth dreisgar a'r hyn y mae hyn yn ei ddweud wrthym am opsiynau atal cynnar i eraill ar yr un llwybr.

Meddai'r Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru  a chyd-awdur yr adroddiad: “Yn gynyddol, rydym yn cydnabod bod materion a wynebwn heddiw wedi'u gwreiddio yn y niwed, y rhagfarnau a'r trallod arall sy'n rhan o orffennol pobl. Mae atal y niweidiau hyn lle bynnag y bo'n bosibl a sicrhau'r camau unioni cynnar eisoes yn elfennau hanfodol wrth fynd i'r afael â ffyrdd niweidiol o fyw a lleihau risgiau o fathau eraill o drais. Gallai mabwysiadu dulliau o'r fath newid cywair o ran ein dull o atal eithafiaeth dreisgar.”

Mae'r adroddiad hefyd yn dadlau y gallai'r risg ar lefel gymunedol gael ei lleihau drwy ddulliau yn cynnwys lleihau rhwystrau i gynnydd mewn rhai cymunedau, dealltwriaeth a chefnogaeth well o ran materion iechyd ffoaduriaid a phoblogaethau mudol eraill, a chynyddu cyfleoedd i unigolion ymwneud ag amrywiaeth o bobl eraill.

Meddai Katie Hardcastle, cyd-awdur yr adroddiad: “Rydym ni’n deall bod trais rhyngbersonol fel camarfer plant neu drais ieuenctid, gwrthdaro ac eithafiaeth dreisgar i gyd yn gysylltiedig. Mae dod i gysylltiad ag un o'r rhain yn gallu cynyddu'r risg o gyfranogiad mewn un arall.

Mae'r atebion i bob math o drais hefyd yn gysylltiedig ond ar hyn o bryd nid yw hyn yn wir am ein prosesau cyfnewid tystiolaeth ac arbenigedd. Rydym yn gobeithio bod yr adroddiad hwn yn helpu i ddangos sut y mae dull iechyd cyhoeddus o ran eithafiaeth dreisgar yn gallu annog gwrthod ideolegau treisgar a mabwysiadu goddefgarwch ac amrywiaeth drwy ymyriadau sydd hefyd yn galluogi pobl i fabwysiadu bywydau iachach, cymdeithasol a mwy cynhyrchiol.”

Meddai'r Athro John Middleton, Llywydd Cyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU: “Mae eithafiaeth dreisgar yn fygythiad parhaus yn y DU ac, fel y mae'r digwyddiadau trasig diweddar yn Seland Newydd wedi datgelu, nid oes unrhyw wlad y tu hwnt i'w chyrraedd. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio i raddau helaeth ar ein bygythiad domestig ond byddai dull iechyd cyhoeddus o ran mynd i'r afael â therfysgaeth o fudd i lawer o wledydd.

Yn rhy aml mae ymdrechion i leihau'r risg o eithafiaeth dreisgar yn canolbwyntio'n ormodol ar rai grwpiau o unigolion, ac nid yw'r mwyafrif helaeth ohonynt yn fygythiad o gwbl. Rhaid i ni fod yn sicr nad yw'r camau a gymerwn i atal erchyllterau a gyflawnir gan lond dwrn o bobl yn lleihau'r ymddiriedaeth sydd gan gymunedau ehangach yn y cymdeithasau y maent yn byw ynddynt.”