Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cefnogi Siarter Teithio'n Iach Caerdydd

Tracey yn arwyddo y siarter teithio iach

Ynghyd â 14 o sefydliadau blaenllaw y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd, heddiw (23 Ebrill), rydym wedi llofnodi’r Siarter Teithio’n Iach sydd newydd gael ei ddatblygu, gan ymrwymo i gefnogi ac annog ein staff ac ymwelwyr i deithio mewn ffordd gynaliadwy i’n safleoedd ac oddi yno.

Trwy 14 o weithredoedd uchelgeisiol, mae’r siarter yn hybu cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a defnydd o gerbydau ag allyriadau isel iawn. Mae’r gweithredoedd yn cynnwys sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio cynaliadwy, datblygu ymgyrchoedd cyfathrebu wedi eu targedu ar gyfer staff, cynnig a hybu’r cynllun beicio i’r gwaith a chynyddu argaeledd fideogynadledda ar gyfer cyfarfodydd er mwyn lleihau’r teithiau y mae angen i staff eu gwneud ar draws safleoedd.

Yn gyffredinol, bydd y 14 o sefydliadau yn ymrwymo i leihau cyfran y teithiau yn cymudo i’r gwaith ac oddi yno mewn car o 62% i 52%, cynyddu cyfran y staff sydd yn beicio’n wythnosol i’r gwaith ac oddi yno o 14% i 23%, a chynyddu cyfran y cerbydau a ddefnyddir yn ystod y dydd sydd yn rhai hybrid sy’n cael eu plygio i mewn neu’n rhai trydan pur o 1% i 3% erbyn 2022.

Mae llygredd aer mewn rhannau o Gaerdydd y tu hwnt i derfynau cyfreithiol yr UE, sy’n cynyddu’r perygl i iechyd, gyda thrafnidiaeth ar y ffyrdd yn gyfrifol am ryw 80% o’r nitrogen deuocsid (NO2) sy’n cael ei fesur ar ochr ffyrdd. Mae effeithiau hirdymor llygredd aer yn cynnwys cyfraddau uwch o glefyd yr ysgyfaint, clefyd cardiofasgwlaidd a chanser. Trwy gydweithio gan edrych i’r hirdymor, nod sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y Ddinas yw cynyddu cyfran y teithiau a wneir i’r gweithle ac oddi yno sydd yn gynaliadwy, gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd ac iechyd pobl yng Nghaerdydd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r sector cyhoeddus yng Nghaerdydd yn cyflogi bron un mewn tri o oedolion yn y Ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd:

“Rydym wrth ein bodd bod aelodau BGC Caerdydd, ynghyd â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yn y Ddinas, yn dod ynghyd i wneud y gyfres bwysig hon o addewidion i gefnogi pobl i deithio’n fwy cynaliadwy yn ein Dinas.

“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i lanhau’r aer yng Nghaerdydd ac rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein Strategaeth Aer Glân, sydd yn cynnwys mesurau i wella’r isadeiledd teithio egnïol yn y Ddinas a lleihau allyriadau o drafnidiaeth gyhoeddus.”

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn cydweithio gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd i lansio’r siarter hon, gyda’r bwriad o rannu’r hyn a ddysgwyd ar draws ein holl safleoedd ar hyd a lled Cymru.

“Fel sefydliad, rydym yn hybu teithio egnïol i’r gwaith ac oddi yno ac yn cefnogi staff i deithio llai yn y gwaith, er enghraifft trwy ddefnyddio cyfleusterau telegynadledda a fideogynadledda lle bynnag y bo’n bosibl”.

Mae’r rhestr lawn o’r sefydliadau a lofnododd y siarter mewn digwyddiad lansio yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd fel a ganlyn: Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyllid a Thollau EM, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Ambiwlans Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau hyn yn cyflogi dros 33,000 o aelodau o staff yn ninas Caerdydd a byddant yn eu hannog i wneud newid iach a chynaliadwy i’r ffordd y maent yn teithio.

Yr arwyddion cynnar yw bod y polisi hwn eisoes yn lleihau milltiroedd ein busnes ac yn helpu staff i elwa ar lai o amser yn teithio.