Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi ymgyrch Nursing Now

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno ymgyrch Nursing Now Cymru Wales, a lansiwyd yn swyddogol mewn digwyddiad yng Nghaerdydd ar 29 Mawrth.

Roedd y digwyddiad lansio yn nodi dechrau cymal Cymru o ymgyrch Nursing Now, ymgyrch fyd-eang tair blynedd sy'n cael ei chynnal ar y cyd â Chyngor Rhyngwladol y Nyrsys a Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd Nursing Now yn rhedeg tan ddiwedd 2020 – sef 200 mlwyddiant ers genedigaeth Florence Nightingale a blwyddyn pan fydd nyrsys yn cael eu dathlu yn fyd-eang.

Mae hyn yn cyd-daro â Sefydliad Iechyd y Byd yn neilltuo 2020 fel Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig, a disgwylir i hyn gael ei gymeradwyo yng Nghynulliad y Byd ym mis Mai eleni.

Dyma nodau'r ymgyrch:

  1. Buddsoddi mwy mewn gwella addysg, datblygiad proffesiynol, safonau, rheoleiddio ac amodau cyflogaeth i nyrsys.
  2. Mwy o ledaenu arfer effeithiol ac arloesol ym maes nyrsio a gwella hyn.
  3. Mwy o ddylanwad i nyrsys a bydwragedd ar bolisi iechyd byd-eang a chenedlaethol, fel rhan o ymdrechion ehangach i sicrhau bod gweithluoedd iechyd yn chwarae mwy o ran wrth wneud penderfyniadau.
  4. Mwy o nyrsys mewn swyddi arweinyddiaeth a mwy o gyfleoedd i ddatblygu ar bob lefel.
  5. Mwy o dystiolaeth i wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau ynghylch ble y gall nyrsio gael yr effaith fwyaf, beth sy'n atal nyrsys rhag cyrraedd eu potensial llawn a sut i fynd i'r afael â'r rhwystrau hyn.

Roedd Rhiannon Beaumont Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol, ymhlith y siaradwyr yn lansiad Nursing Now Cymru.

Meddai Rhiannon: “Rwy'n gyffrous iawn i weld Cymru yn ymuno'n swyddogol ag ymgyrch nyrsio fyd-eang Nursing Now.  Mae nyrsys a bydwragedd wrth galon y rhan fwyaf o dimau iechyd, gan chwarae rhan hanfodol o ran gwella a thrawsnewid gwasanaethau iechyd, hybu iechyd ac atal a lleihau effaith clefydau, ynghyd â sicrhau bod y gofal a ddarperir yn dosturiol ac o safon uchel, sef yr hyn y dylai ein cleifion a'n dinasyddion ddisgwyl ei derbyn.

“Drwy gefnogi'r ymgyrch hon yng Nghymru, gallwn gydnabod y rôl werthfawr y mae nyrsys a bydwragedd yn ei chwarae a chodi proffil a statws nyrsio a bydwreigiaeth.”

Mae grŵp llywio dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, wedi'i sefydlu i ddatblygu ymgyrch Nursing Now Cymru Wales a sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar y themâu allweddol a nodwyd ar gyfer Cymru. 

Yn sail i'r themâu mae'r model effaith driphlyg a nodwyd yn A Report by the All-Party Parliamentary Group on Global Health, sef dogfen ragflaenol a arweiniodd at ymgyrch Nursing Now. Mae'r Model Effaith Driphlyg yn nodi Gwell Iechyd, Economïau Cryfach a mwy o Gydraddoldeb Rhwng y Rhywiau.

Dyma'r themâu Nursing Now Cymru Wales a nodwyd:

  • Meithrin cadernid a hyrwyddo llesiant yn ein myfyrwyr a'n cofrestreion.
  • Cynyddu a gwella lledaenu arfer effeithiol ac arloesol mewn nyrsio er mwyn ysgogi cysondeb o ran mabwysiadu ar draws y system.
  • Cryfhau a meithrin arweinyddiaeth a dylanwadu ar allu ar bob lefel.
  • Mynd ati'n weithredol i annog a chynyddu amrywiaeth mewn nyrsio a bydwreigiaeth i ddylanwadu'n gadarnhaol ar gynhwysiant grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol gan hyrwyddo datblygiadau cymdeithasol ac economaidd.
  • Paratoi myfyrwyr a chefnogi nyrsys a bydwragedd i gydnabod eu cyfrifoldeb rôl wrth gyfrannu at atal, gwella canlyniadau iechyd i unigolion a'r boblogaeth.

Mae'r themâu hyn yn cyd-fynd â'n cyd-destun polisi yng Nghymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach a Hyfforddi Gweithio Byw.

Ceir rhagor o wybodaeth am Nursing Now yn www.nursingnow.org