Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud iechyd a llesiant yn greiddiol i gwricwlwm ysgol newydd Cymru

Yn ddiweddar, cynhaliodd staff o Dîm Gwella Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddigwyddiad i gyflwyno Cwricwlwm Drafft Cymru 2022, fydd yn gwneud iechyd a llesiant yn greiddiol i addysg yng Nghymru.

New Curriculum Welsh Final from Public Health Wales on Vimeo.

Mae Cwricwlwm drafft Cymru 2022 yn ceisio gwneud iechyd a llesiant yn greiddiol i’r cwricwlwm newydd trwy ei wneud yn un o’r chwe Maes Profiad Dysgu ar gyfer ysgolion Cymru o 2022 ymlaen. 
Y chwe Maes Profiad Dysgu newydd yw: 
•    Gwyddoniaeth a Thechnoleg
•    Mathemateg a Rhifedd 
•    Y Celfyddydau Mynegiannol
•    Y Dyniaethau
•    Iechyd a Llesiant
•    Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Cynhaliwyd y digwyddiad, yng Ngwesty’r Grand yn Abertawe, gan Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi bod yn cefnogi ysgolion Arloesol a Llywodraeth Cymru i ddatblygu a mireinio Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) Iechyd a Llesiant.

Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad rhyngweithiol difyr iawn ar arddull sioe gêm gan Tom Hills, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, ac un o’r Ysgolion Arloesol sydd yn gysylltiedig â datblygu AoLE Iechyd a Llesiant. Helpodd y cyflwyniad y gynulleidfa i gael cipolwg ar resymeg, cefndir a datblygiad y cwricwlwm newydd yn cynnwys y pedwar diben.

Rhoddodd Kelly Forrest Mackay, dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd St Illtyd ym Mlaenau Gwent, gyflwyniad ar y broses o ddatblygu a mireinio AoLE Iechyd a Llesiant, gan gyflwyno’r pum datganiad o’r Hyn Sy’n Bwysig i’r gynulleidfa:
•    Mae buddion gydol oes i ddatblygu iechyd a llesiant corfforol.
•    Mae’r ffordd yr ydym yn prosesu ac yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n llesiant emosiynol.
•    Mae ein penderfyniadau yn effeithio ar ansawdd ein bywydau a bywydau pobl eraill.
•    Mae’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â dylanwadau cymdeithasol gwahanol yn ffurfio pwy ydym a’n hiechyd a’n llesiant
•    Mae perthnasoedd iach yn hanfodol i’n teimlad o berthyn a llesiant

Cafodd ystod o weithdai eu cynnig i gyfranogwyr drafod a rhoi adborth ar ddatganiadau unigol Yr Hyn Sy’n Bwysig. Hwyluswyd y gweithdai gan athrawon y Cwricwlwm Arloesol oedd yn gysylltiedig â datblygu’r AoLE Iechyd a Llesiant dros y 2 flynedd diwethaf.

Mae Cwricwlwm Drafft Cymru 2022 yn agored ar gyfer adborth hyd at 19 Gorffennaf. 
Am fwy o wybodaeth am y cwricwlwm newydd cliciwch yma: 

Dolen

https://hwb.gov.wales/draft-curriculum-for-wales-2022