Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd – diwygio dangosydd a newidiadau i ffiniau bwrdd iechyd

Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei diwygiad diweddaraf o offeryn Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF).

Ar 1 Ebrill 2019, derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. 

Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae holl ddata diweddar a hanesyddol ar lefel bwrdd iechyd wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid i ffiniau’r bwrdd iechyd, lle y bo’n bosibl.

Mae’r diwygiad hefyd yn diweddaru 13 o ddangosyddion gyda’r data diweddaraf sydd ar gael, ar draws pob dadansoddiad daearyddol a demograffig:

  • Disgwyliad oes ar enedigaeth
  • Disgwyliad oes iach ar enedigaeth
  • Y bwlch o ran disgwyliad oes ar enedigaeth rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig
  • Ymadawyr ysgol â sgiliau a chymwysterau
  • Ansawdd tai
  • Ansawdd yr aer yr ydym yn ei anadlu
  • Smygu yn ystod beichiogrwydd
  • Plant 5 oed â phwysau iach
  • Torri cluniau ymysg pobl hŷn
  • Marwolaeth cyn pryd yn sgil clefydau anhrosglwyddadwy allweddol
  • Marwolaethau yn sgil anafiadau
  • Marwolaethau yn sgil anafiadau traffig ar y ffordd
  • Hunanladdiad

Mae offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn cynnwys dros 40 o ddangosyddion allweddol ar gyfer monitro iechyd a llesiant ar hyd a lled Cymru.  Datblygwyd y fframwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i ysbrydoli a llywio gwneuthurwyr penderfyniadau i ysgogi gweithredoedd sydd yn gwella iechyd y genedl.

Gellir ei ddefnyddio gan y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau’r sector preifat a gwirfoddol yn ogystal ag unigolion a’u teuluoedd i ysbrydoli a llywio gweithredu sydd yn gwella ac yn diogelu iechyd a llesiant.  Mae’n gysylltiedig â dangosyddion a cherrig milltir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Caryn Cox, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd: “Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd wedi cael ei ddatblygu i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad ni, ymddygiad gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.

Er mwyn rhoi trosolwg o’r newidiadau dros amser, caiff y data yn yr offeryn ar-lein ei ddiwygio’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod mor gywir â phosibl. Mae’r diwygiad diweddaraf hwn yn cynnwys diweddariadau sydd yn rhoi cyfrif am newidiadau i ffiniau byrddau iechyd yng Nghymru.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau’n ymwneud â Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd neu os hoffech roi adborth, cysylltwch drwy anfon e-bost atom yn PHOF@wales.nhs.uk