Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Ymarfer Sgrinio Cymunedol TB yn Llwynhendy - Dydd Mercher 5 Mehefin 2019

Story: 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal sesiwn sgrinio twbercwlosis (TB) ychwanegol yn Llwynhendy yr wythnos hon i ymateb i alw mawr gan y cyhoedd i gael i brofi fel rhan o ymarfer sgrinio cymunedol. 

Mae tua 1000 o bobl wedi cael eu sgrinio ar gyfer TB yn ystod y pum sesiwn sgrinio sydd eisoes wedi digwydd ym mhentref Sir Gaerfyrddin yr wythnos hon.

Estynnwyd un sesiwn ar brynhawn dydd Mercher, a chynhelir sesiwn ychwanegol ar ddydd Iau 6 Mehefin, rhwng 8yb a 1.30yp, yng Nghanolfan Iechyd Llwynhendy yn y pentref. 
Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ymateb y gymuned i’r ymarfer sgrinio wedi bod yn ardderchog. Mae’r sesiynau estynedig ac ychwanegol yn cael eu cynnig i sicrhau y gellir sgrinio pawb sy’n dod ymlaen.”

Mae'r ymarfer sgrinio yn ymgais i reoli achos parhaus o TB yn Llwynhendy y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ei fonitro ac yn ymchwilio iddo ers tro. 
Ceir tystiolaeth i awgrymu bod nifer o achosion o TB gweithredol a chudd nad ydynt wedi'u canfod hyd yn hyn ym mhoblogaeth Llwynhendy sy'n gysylltiedig â'r achos. Nod yr ymarfer sgrinio presennol yw nodi'r achosion hyn er mwyn i'r unigolion yr effeithir arnynt allu mynd i gael triniaeth ac er mwyn gallu rheoli'r achos. 

Mae Dr Mason yn parhau: “Rydym yn arbennig o awyddus i gwsmeriaid sy’n oedolion a chyflogeion tafarn Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2009 a 2010 ac efallai eu bod wedi dod mewn cysylltiad â'r achosion cyntaf yn yr achos hwn i gael eu sgrinio, felly rydym yn annog y bobl hynny yn arbennig i fynychu'r sesiwn sgrinio sy'n weddill." 


Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori unrhyw un sy'n ansicr ynghylch a oes angen iddynt fynychu am sgrinio i ffonio’r llinell gymorth benodol ar 02920 827 627 i drafod eu cymhwysedd.