Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi rhybudd am y frech goch wrth ymchwilio i achosion yn y Rhyl

Mae pobl a ymwelodd â rhannau penodol o'r Rhyl yn cael eu rhybuddio i fod yn effro i arwyddion a symptomau'r frech goch ar ôl clwstwr lleol o achosion.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i dri achos sydd wedi'u cadarnhau o'r haint, a dau achos tybiedig cysylltiedig.

Ymhlith yr achosion mae pobl a dreuliodd amser mewn ystafelloedd aros gofal iechyd, ac mewn sinema a bwyty bwyd brys yn y Rhyl pan oeddent yn heintus, fel y gallai'r haint fod wedi lledu.

Mae'r frech goch yn heintus iawn ac mae'n lledu'n hawdd i bobl nad ydynt wedi'u brechu.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus os oeddent mewn unrhyw rai o'r lleoedd canlynol:

•    Sinema'r Vue yn y Rhyl ar brynhawn dydd Sadwrn 29 Mehefin
•    Bwyty McDonalds ar stryd fawr y Rhyl ar brynhawn dydd Sadwrn 29 Mehefin
•    Yr adran damweiniau ac achosion brys/ystafell aros meddyg teulu y tu allan i oriau yn Ysbyty Glan Clwyd nos Iau 20 Mehefin, bore dydd Sul 30 Mehefin neu nos Sul 30 Mehefin

Cynghorir bod unrhyw un a allai fod wedi dod i gysylltiad â'r frech goch yn y lleoliadau hyn a anwyd ar ôl 1970 ac nad ydynt wedi cael y frech goch yn flaenorol, yn gwirio eu bod wedi'u brechu'n llawn gyda dau ddos o MMR, a dylent fod yn wyliadwrus o symptomau'r frech goch. 

Mae'r rhain yn cynnwys tymheredd uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol, sy'n dechrau ar gefn y pen, gan ymledu i'r wyneb ac ymlaen, i lawr y corff. Mae'r frech fel arfer yn ymddangos rhwng tri a phum diwrnod ar ôl i'r symptomau ddechrau.

Dylai unrhyw un sy'n amau bod gan eu plentyn y frech goch gysylltu â'u meddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.  Dylent dynnu sylw eu darparwyr gofal iechyd at y symptomau cyn mynd i unrhyw apwyntiad.

Dylai pobl â symptomau aros gartref o'r ysgol, meithrinfeydd a digwyddiadau cymdeithasol fel clybiau gwyliau, gwyliau a phartïon pen-blwydd.   

Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd o atal achosion mawr yw drwy frechu. 

Mae rhieni ysgol gynradd leol, Ysgol Clawdd Offa ym Mhrestatyn, wedi cael cyngor uniongyrchol ar arwyddion a symptomau'r frech goch oherwydd bod un o'r achosion yr ymchwilir iddo wedi bod yn yr ysgol tra'n heintus.

Meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd: “Ar hyn o bryd, nid ydym yn ymchwilio i achos mawr o'r frech goch, gan nad oes tystiolaeth bod y frech goch wedi lledu y tu hwnt i un grŵp o bobl â chysylltiad agos.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod y frech goch yn lledu'n gyflym ac yn hawdd rhwng pobl heb eu brechu ac mae gennym bryderon y gallai eraill fod wedi dod i gysylltiad â'r haint yn y sinema, y bwyty, neu'r ystafelloedd aros gofal iechyd y penwythnos diwethaf.

“Ar bob adeg, rydym yn cynghori y dylai unrhyw un nad yw wedi cael ei frechu'n llawn â dau ddos o MMR i sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu rhag y frech goch, a all fod yn ddifrifol iawn ac a allai fod yn angheuol.

“Gyda gwyliau'r haf ar y ffordd, a phobl yn mynd i ddigwyddiadau mawr a mynd ar wyliau mewn gwledydd lle mae'r frech goch yn gyffredin, byddem yn annog pawb i sicrhau eu bod nhw a'u plant wedi cael y brechlyn MMR.”

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail pan fyddant yn dair oed a phedwar mis, ond nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny ar ddosau a gollwyd.

Gall tua un o bob pump o blant â'r frech goch brofi cymhlethdodau difrifol fel heintiau yn y glust, niwmonia neu lid yr ymennydd. Mae un o bob 10 o blant â'r frech goch yn gorfod mynd i'r ysbyty ac mewn achosion prin gall fod yn angheuol. 

Ceir rhagor o wybodaeth am y frech goch, gan gynnwys dolen i dystiolaeth fideo gan fam y gwnaeth ei merch tair oed heb ei brechu gael y frech goch yn:

Y Frech Goch