Neidio i'r prif gynnwy

Cyfle olaf: Cyflwynwch crynodeb ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cafodd y dyddiad cau ei estynu i 31 Gorffennaf 2019.

Rhaid i'r holl grynodebau gael eu cyflwyno yn www.cicc.cymru

Mae cynrychiolaeth a mewnbwn gan bob sector yn hanfodol er mwyn cyflawni systemau cynaliadwy, gweithio traws-sector a meddwl ar y cyd. Felly rydym yn annog cyflwyno crynodebau gan bob sector.

Rydym yn chwilio am naill ai crynodebau gwyddonol sy'n cael eu hysgogi gan ymchwil neu ddata neu grynodebau ymarferol sy'n rhoi manylion cymhwyso gwybodaeth neu theori bresennol yn ymarferol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn partneriaethau cynaliadwy, syniadau newydd a pherthnasedd Iechyd Cyhoeddus i gynhadledd eleni.

Mae'r themâu ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn gofyn i chi ddewis un yn unig o'r chwe thema isod ar gyfer eich crynodeb:

  1. Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd.
  2. Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd.
  3. Hyrwyddo ymddygiad iach.
  4. Sicrhau dyfodol iach i'r genhedlaeth nesaf.
  5. Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd.
  6. Cefnogi datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Gellir lawrlwytho canllawiau cyflwyno llawn yma, gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru.