Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddiaethau newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cael eu sefydlu'n ffurfiol o heddiw ymlaen

Bydd dwy gyfarwyddiaeth newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru’n weithredol yn ffurfiol o heddiw ymlaen (1 Ebrill).

Yn dilyn sawl mis o baratoi, mae’r Gyfarwyddiaeth Wybodaeth a Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn rhan o strwythur y sefydliad.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Wybodaeth, o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Pontio, Sian Bolton, yn cynnwys yr is-adrannau Ymchwil a Gwerthuso a Gwybodaeth Iechyd - yn cynnwys Uned Gwybodaeth a Gwyliadwraeth Canser Cymru, y Tîm Adolygu Marwolaethau Plant, y Rhaglen Mesur Plant, y Gofrestr Anomaleddau Cynhenid, Symudedd Gwybodaeth, y Gwasanaeth Tystiolaeth a Thîm Dadansoddi’r Arsyllfa.

Dywedodd Sian Bolton:

Mae’r Gyfarwyddiaeth Wybodaeth yn ddechrau ar daith gyffrous.  Mae byd technoleg, gwybodaeth a data’n tyfu’n ddyddiol ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn croesawu hyn ac yn gweithio ar draws sectorau a chyda phartneriaid gwahanol.

“Mae ymchwil a gwerthuso, a’r data a gynhyrchir gan yr Is-adran Gwybodaeth Iechyd, yn gwbl hanfodol i gyflawni ein Strategaeth Hirdymor a’n Blaenoriaethau Strategol.

Bydd Canolfan Gydweithredol y WHO bellach yn gweithredu fel cyfarwyddiaeth ac yn cynnwys yr is-adrannau Polisi ac Iechyd Rhyngwladol ac Uned Gydweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor. 

Yr Athro Mark Bellis, fydd yn dal i eistedd ar y Tîm Gweithredol ac yn mynychu’r Bwrdd, fydd yn arwain y gyfarwyddiaeth newydd.

Dywedodd yr Athro Bellis:

Mae dod yn Ganolfan Gydweithredol y WHO yn ein galluogi i ddatblygu’r blynyddoedd o waith llwyddiannus yr ydym eisoes wedi ei wneud gyda Sefydliad Iechyd y Byd."

“Bydd gweithio gydag arbenigwyr blaenllaw yn y WHO, ac ar draws eu rhwydweithiau rhyngwladol, yn ein helpu ni i ddeall pa bolisïau ac ymyriadau iechyd y cyhoedd sydd yn gweithio orau ar gyfer pobl Cymru a’r rheiny mewn gwledydd eraill ar draws y byd.

“Mae Cymru eisoes yn arweinydd byd-eang o ran polisi iechyd y cyhoedd.  Edrychwn ymlaen at rannu’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu oddi wrth eraill ynglŷn â’r ffordd i wneud Cymru’n lle gwell byth i fyw, gweithio a magu teulu.”