Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth gychwynnol yn awgrymu bod y cyhoedd yn cefnogi gofyn am brofiadau trawmatig yn ystod plentyndod mewn ymarfer cyffredinol

Dywedodd bron naw o bob 10 o gleifion (87 y cant) a roddodd adborth yn dilyn menter beilot newydd fod meddygfa meddyg teulu yn lle addas i ofyn am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE).

O dan y fenter beilot, dywedodd 85 y cant o gleifion hefyd ei bod yn dderbyniol darparu gwybodaeth am ACE i ymarferydd iechyd, a dywedodd pedwar o bob pump (81 y cant) ei bod yn bwysig i ymarferwyr ddeall y wybodaeth hon.

Nododd ychydig o dan draean (30 y cant) o gleifion ymarfer cyffredinol eu bod wedi profi dau neu ragor o ACE, gyda'r cleifion hynny yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd fel smygu ac yn fwy tebygol o fod yn byw gydag iechyd meddwl gwael.

Fodd bynnag, ar gyfer ychydig o dan 60 y cant o'r rhai ag ACE, y fenter hon oedd y tro cyntaf iddynt ddweud wrth weithiwr proffesiynol neu wasanaeth am y profiadau hyn.

Mae'r fenter beilot leol, a gynhaliwyd yn Ynys Môn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi'i chefnogi gan y Ganolfan Gymorth ACE a'i gwerthuso gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn darparu tystiolaeth o gefnogaeth y cyhoedd ar gyfer cwestiynau ynghylch ACE yng nghyd-destun perthynas gefnogol gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Mae ACEs yn brofiadau trawmatig sy'n digwydd cyn 18 oed. Maent yn amrywio o gam-drin llafar, meddyliol a chorfforol, i ddod i gysylltiad ag alcoholiaeth, y defnydd o gyffuriau a thrais domestig gartref.

Mae ymchwil fyd-eang a chenedlaethol yn canfod bod plant sy'n profi ACE yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd a gwrthgymdeithasol, maent yn wynebu risg uwch o lawer o iechyd gwael drwy gydol eu bywyd, ac efallai y byddant yn rhoi pwysau mawr ar wasanaethau gofal iechyd.

Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“I ormod o bobl yng Nghymru, mae ACE yn dal yn rhan o blentyndod ac yn faich y maent yn ei gario gyda hwy drwy gydol eu bywydau.

“Mae sefydliadau'r sector cyhoeddus ledled Cymru eisoes yn gweithio gyda'i gilydd i leihau nifer y plant sy'n dioddef ACE. Er bod angen rhagor o ymchwil, efallai yn y pen draw y bydd gan feddygfeydd meddygon teulu rôl i'w chwarae o ran cynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef ACE a lleihau effaith hyn ar iechyd a llesiant.

“Er bod modelau ymholi ACE yn dal yn y camau cynnar o ran datblygu, mae'r fenter beilot hon yn awgrymu bod y cyhoedd, yn hytrach na theimlo eu bod wedi'u sarhau neu'n ddryslyd gan ymholiadau o'r fath, yn cefnogi cael eu holi am ACE mewn meddygfeydd meddygon teulu.

“Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod meddygon teulu eu hunain yn dweud bod cael gwybodaeth am ACE yn gwella eu dealltwriaeth a'u hempathi tuag at gleifion, gan ddarparu dull mwy cyfannol o ran gofal cleifion.”

Dolenni