Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Bwyd, Dŵr ac Amgylcheddol

Arweinydd Gwyddonol: Deborah Charles

Rheolwr Gwasanaeth: Steve Murphy

 

Prif swyddogaethau

Darparu profion microbiolegol cynhwysfawr, proffesiynol, cost-effeithiol ac achrededig ar fwyd, cynhyrchion llaeth a dŵr ar gyfer cwsmeriaid preifat a chyhoeddus yng Nghymru er mwyn diogelu'r cyhoedd rhag haint drwy archwiliadau gwyliadwriaeth ac achosion rheolaidd.

Cynnal ymchwil berthnasol a chost effeithiol i agweddau penodol a pherthnasol ar ansawdd a diogelwch bwyd a dŵr, fel y'u pennir gan anghenion Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, y Llywodraeth ganolog, yr Asiantaeth Safonau Bwyd genedlaethol ac Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru .

Darparu ymgynghoriaeth, cyngor a hyfforddiant yn ôl gofynion cyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat.