Neidio i'r prif gynnwy

Aseswyr

Cyfrifoldebau’r aseswr:

  • Cwblhau hyfforddiant Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig i aseswyr yn llwyddiannus 
  • Gallu asesu’n fedrus y dystiolaeth a gyflwynir gan ymgeiswyr 
  • Bod yn hollol gyfarwydd â’r safonau ar gyfer ymarferwyr iechyd cyhoeddus
  • Cadarnhau bod yr holl safonau wedi’u bodloni, a throsglwyddo ceisiadau i’w dilysu gan y dilyswr a benodwyd 

Pwy sy’n gymwys:
I fod yn aseswr mae angen i chi fod yn weithiwr proffesiynol ym maes iechyd, sydd â dwy flynedd o brofiad o weithio ar lefel uwch ym maes iechyd cyhoeddus.  

Ymrwymiad o ran amser:
Mae’n ofynnol i aseswyr fynychu 1.5 diwrnod o hyfforddiant a gyflwynir gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, ni ddisgwylir iddynt asesu mwy na dau ymarferydd y flwyddyn ac ni ddylai unrhyw un ohonynt gymryd mwy na 12 awr i’w asesu. At hynny, caiff aseswyr eu gwahodd i sesiynau diweddaru hyfforddiant bob blwyddyn.

Manteision bod yn aseswr:
Hyfforddiant ac arfarniad a ardystiwyd gan Gofrestr Iechyd Cyhoeddus y Deyrnas Unedig, sy’n gallu cyfrannu at eich datblygiad proffesiynol parhaus 
Dealltwriaeth well o sut y caiff yr ystod lawn o wybodaeth a sgiliau ym maes iechyd cyhoeddus eu rhoi ar waith wrth i ymarferwyr gyflwyno ymyriadau iechyd cyhoeddus 
Gwerthfawrogiad ehangach o agendâu, polisïau, rolau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus mewn ardaloedd daearyddol a meysydd gwasanaeth eraill