Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a Chyngor Diogelu

Gwybodaeth a Chyngor Diogelu

 

Diogelu plant

Caiff y term diogelu ei ddefnyddio i ddiffinio’r camau a gymerir er mwyn amddiffyn rhag niwed grwpiau o bobl sy’n agored i niwed. Mae diogelu ac amddiffyn lles plant a phobl ifanc yn fater i bawb ac mae gan asiantaethau iechyd rôl hanfodol i’w chwarae o safbwynt sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y gofal, y cymorth a’r gwasanaethau priodol y mae arnynt eu hangen er mwyn hybu iechyd a datblygiad plant.  

Mae’r ffaith bod gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu i bawb yn golygu mai gweithwyr iechyd proffesiynol yw’r cyntaf, yn aml, i adnabod teuluoedd sy’n cael anhawster gofalu am eu plant. Felly, mae cyfraniad gweithwyr iechyd proffesiynol yn hanfodol yn ystod pob cam sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phlant a theuluoedd. 


Diogelu oedolion

Mae a wnelo diogelu oedolion ag amddiffyn y sawl sy’n wynebu risg o ddioddef camdriniaeth/niwed (oedolion sy’n wynebu risg) rhag cael eu cam-drin neu’u hesgeuluso. Mae’n cynnwys mesurau i atal camdriniaeth a mesurau i amddiffyn iechyd, lles a hawliau dynol pobl a’u galluogi i fyw bywyd heb niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
 
Gall camdriniaeth ddigwydd yn unrhyw le. Gall ddigwydd gartref, mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio, mewn ysbyty, mewn sefydliad addysg uwch, yn y gwaith neu ar y stryd. Gall fod yn fwriadol neu’n anfwriadol.
 
Yn aml, bydd y sawl sy’n gyfrifol am y gamdriniaeth yn gyfarwydd i’r sawl sy’n cael ei gam-drin. Gallai fod:

  • Yn ofalwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr
  • Yn weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol neu’n weithiwr arall
  • Yn berthynas, yn ffrind neu’n gymydog
  • Yn breswylydd, yn glaf neu’n ddefnyddiwr gwasanaeth arall
  • Yn ymwelydd achlysurol neu’n rhywun sy’n darparu gwasanaeth
  • Yn rhywun sy’n camfanteisio’n fwriadol ar bobl agored i niwed.

 

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn egluro’r rolau a’r cyfrifoldebau hanfodol ar gyfer ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Mae’r gweithdrefnau yn disodli Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Pholisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Hawdd eu Niweidio rhag cael eu Cam-drin. Maent yn helpu ymarferwyr i weithredu’r ddeddfwriaeth, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a’r canllawiau diogelu statudol Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl.

 

 

Discover more