Neidio i'r prif gynnwy

Bywgraffiadau'r Tîm Diogelu Cenedlaethol

Dr Nigel Farr

Ymarferydd Cyffredinol Diogelu Cenedlaethol
 
Graddiodd Dr Nigel Farr o Goleg Meddygol Ysbyty St Bartholomew yn 1989.  Bu’n bartner mewn Ymarfer Cyffredinol yng Ngwent ers 1995.  O 2005, bu’n gweithio’n Ymarferydd Cyffredinol a oedd yn arwain maes Diogelu i Fwrdd Iechyd Lleol Caerffili ac yna i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, tan iddo ymgymryd â’i swydd gyda’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn 2013. Bu hefyd yn gweithio’n Ymarferydd Cyffredinol a oedd yn arwain y Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan rhwng 2011 a 2013.  Bu’n Hyfforddwr ac yn Oruchwyliwr Addysgol ym maes Gofal Sylfaenol ers 2001.

Dr Alison Mott

Meddyg Dynodedig
 
Bu Dr Alison Mott yn gweithio’n Bediatrydd Ymgynghorol ers 1996 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Daeth yn Feddyg Dynodedig i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2013.  Mae ganddi brofiad ymarferol eang ym maes diogelu plant ar lefel weithredol a strategol. Hi yw’r Pediatrydd Arweiniol yng Nghanolfan Atgyfeiriadau Ymosodiadau Rhyw Caerdydd ac Arweinydd Clinigol (Plant) y Prosiect ar Fwrdd Prosiect Gwasanaethau Ymosodiadau Rhyw Grŵp Cydweithredol Iechyd De Cymru. Ymysg ei diddordebau presennol mae darparu gwasanaeth teg i blant a phobl ifanc yng Nghymru yng nghyswllt ymosodiadau rhyw, ac atal camfanteisio’n rhywiol ar blant.

Dr Aideen Naughton

Arweinydd Gwasanaeth / Meddyg Dynodedig
 
Bu Dr Aideen Naughton yn gweithio’n Bediatrydd Ymgynghorol ers iddi gymhwyso o University College yn 1985, a bu’n gweithio yn Iwerddon, Prydain Fawr, y Swdan, a Fietnam. Symudodd i Gymru yn 2000 i ymgymryd â’i swydd bresennol, sef Arweinydd Gwasanaeth i’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) a Phediatrydd Ymgynghorol yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni. Mae Aideen yn gymrawd ymchwil clinigol anrhydeddus i Brifysgol Caerdydd, gan arwain yr adolygiadau ynghylch Esgeuluso gyda’r Grŵp Adolygu Amddiffyn Plant. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn iechyd meddwl ac ymlyniad babanod.mental health and attachment.

Debbie Pachu

Nyrs Dynodedig
 
Cymhwysodd Debbie Pachu yn Nyrs Cyffredinol Cofrestredig o Brifysgol Cymru, Caerdydd, yn 1991.  Yna, symudodd i Jersey yn Ynysoedd y Sianel, lle bu’n gweithio yn Ysbyty Cyffredinol St Helier cyn dychwelyd i Gymru, i hyfforddi a gweithio’n Fydwraig Gofrestredig yn Abertawe. Yn ddiweddarach, cymhwysodd Debbie yn Ymwelydd Iechyd Cofrestredig, gan weithio am lawer o flynyddoedd yn Sir Gaerfyrddin ac yna yn Abertawe yn Ymwelydd Iechyd Arbenigol yn Nhîm Datblygu Iechyd Cychwyn Cadarn, tan 2004. Arbenigodd wedyn mewn Ymarfer Diogelu Uwch, gan ennill cymhwyster ôl-radd yn y pwnc o Brifysgol Caerdydd. Mae Debbie wedi gweithio mewn swyddi diogelu plant ac oedolion yn benodol dros y 13 blynedd ddiwethaf, gan weithio ar draws lleoliadau acíwt, cymunedol a gofal sylfaenol. Debbie oedd y Nyrs a Enwir ar gyfer Diogelu i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru, cyn iddi dod yn Nyrs Ddynodedig yn y Tîm Diogelu Cenedlaethol ym mis Awst 2016.  Mae’n dal MSc mewn Dulliau Ymchwil Cyhoeddus o Brifysgol Abertawe.

Dr Lorna Price

Meddyg Dynodedig
 
Graddiodd Dr Lorna Price o Ysgol Feddygol Prifysgol Glasgow yn 1980.  Bu’n gweithio’n Bediatrydd Cymunedol ers 1988, a hynny yng Nghaerlŷr yn gyntaf, ac yna yn Abertawe, lle bu’n gweithio ers 1993; ar hyn o bryd mae’n gweithio yng Nghanolfan Datblygu Plant Hafan y Môr, yn Ysbyty Singleton.  Lorna oedd y Meddyg a Enwir ar gyfer Diogelu Plant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg rhwng 2007 a 2012, pan ymgymerodd â’i swydd bresennol yn Feddyg Dynodedig gyda’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru).  Mae Lorna wedi cyfrannu at waith Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru ers 2013.

Daphne Rose

Nyrs Dynodedig
 
Cymhwysodd Daphne Rose yn Nyrs Cyffredinol Cofrestredig yn Ysbyty Prifysgol Cymru yn 1979 a bu’n gweithio yn yr Uned Bediatreg yno tan 1983. Ar ôl symud i Dorset, cymhwysodd yn Ymwelydd Iechyd yn 1989. Bu’n arbenigo mewn gwaith diogelu ers 1994, gan gyflawni swydd Nyrs a Enwir i Bournemouth a Poole‎ hyd at 1999, pan gafodd ei phenodi’n Nyrs Dynodedig ar gyfer Portsmouth a De Ddwyrain Hampshire.  Yn 2005, cafodd ei phenodi i swydd Nyrs Ymgynghorol Diogelu Plant ar gyfer sir Dorset a bwrdeistrefi Bournemouth a Poole, ac ymunodd â’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), yn Nyrs Dynodedig ar gyfer Diogelu Plant, ym mis Mehefin 2009.  Mae’n dal BA (Anrh.) mewn Amddiffyn Plant (Coleg y Brifysgol, Chichester) a gradd MA mewn Cyfraith ac Ymarfer Gofal Plant (Prifysgol Keele).

Dr Caroline Sampeys

Meddyg Dynodedig
 
Graddiodd Dr Carolyn Sampeys o Ysgol Feddygol Southampton yn 1982.  Bu’n gweithio’n Bediatrydd Cymunedol yng Nghaerdydd ers 1987 a bu ganddi ddiddordeb arbennig ym meysydd Plant sy’n Derbyn Gofal a Mabwysiadu ers 1996.  Mae’n Feddyg a Enwir ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae’n Gynghorydd Meddygol ym maes Mabwysiadu i awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg. Cafodd Carolyn ei phenodi’n Feddyg Dynodedig i’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn 2013, ac mae ganddi gylch gwaith arbennig ynglŷn â Phlant sy’n Derbyn Gofal a Mabwysiadu ledled Cymru. Carolyn yw cadeirydd Grŵp Iechyd y DU CoramBaaf a bu’n ymwneud â gwaith ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol ynghylch mabwysiadu a gofal amgen.

Karen Toohey

Nyrs Dynodedig
 
Cymhwysodd Karen Toohey yn Nyrs yn 1983 a bu’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ym meysydd gofal yr henoed, nyrsio yn yr adran lawdriniaeth, a nyrsio ardal. Cymhwysodd yn Ymwelydd Iechyd yn 1995, ac ar ôl iddi gwblhau BSc (Anrh.) mewn Iechyd Cymunedol yng Ngholeg Christ Church Caergaint, symudodd i dîm Amddiffyn Plant a oedd yn arbenigo mewn defnyddio therapïau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i weithio gyda phlant, pobl ifanc, a’u teuluoedd. Symudodd Karen i Gymru yn 2000 a bu’n bwrw ymlaen â’i hastudiaethau academaidd, gan ymgymryd â gradd MSc mewn Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2010. Cyn iddi ymuno â’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), hi oedd Pennaeth Diogelu Plant (y Nyrs a Enwir) am 12 mlynedd yng Ngorllewin Cymru.