Mae’r ‘Rhwydwaith’ yn cysylltu sefydliadau yn GIG Cymru â’i gilydd, gan greu amgylchedd cydweithredol er mwyn cydnabod materion cyffredin, datblygu datrysiadau, a chyflawni safonau gofal iechyd i ddiogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl yn well. Wrth galon y rhwydwaith mae gwerthuso effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau a’r ymyriadau ar gyfer amddiffyn a diogelu plant, yn ogystal â lleihau amrywiadau rhwng arferion ledled y GIG. Caiff ei arwain yn broffesiynol gan y Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru).