Dyma’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd hyd yma:
- Fframwaith Canlyniadau Ansawdd GIG Cymru ar gyfer Diogelu Plant
- Dull Asesu Risg Cymru Gyfan ar gyfer plant a phobl ifanc a dderbynnir i gael cyfnod o ofal mewn maes nad yw’n bediatrig
- Strategaeth Atal Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a’r Cynllun Gweithredu i GIG Cymru
- Gweithdy ar faes Diogelu Oedolion a’r GIG
- Datblygwyd Safonau Ansawdd ar gyfer Swydd Cynghorydd Meddygol ym maes Mabwysiadu a Maethu, ac fe’u cyflwynwyd i Gyfarwyddwyr Meddygol Byrddau Iechyd i’w gweithredu
- Safonau ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng nghyswllt diogelu plant
- Llwybr Clinigol Cymru Gyfan ynghylch Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (AOCB)
- Dull Archwilio; cwblhawyd archwiliad o wasanaethau pediatrig amddiffyn plant, a lluniwyd cyfres newydd o safonau penodol i Gymru.