Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Tîm annibynnol yw’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), sy’n cynnwys Meddygon a Nyrsys Dynodedig ynghyd ag Arweinydd Ymarferwyr Cyffredinol Cenedlaethol. Caiff y swyddogaeth Ddynodedig ei chyflawni gan uwch Feddygon a Nyrsys sydd ag arbenigedd a phrofiad sylweddol yn y maes arbenigol hwn.
 
Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn atebol i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei waith ac am ddarparu cyngor proffesiynol arbenigol annibynnol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno adroddiadau’n gorfforaethol i’r Gweinidog drwy’r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Mae’r rhaglen waith wedi’i chyfuno â Chynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru ac adroddiadau’r sefydliad, ac yn y blaen, i’r Gweinidog.

Yr hyn a wnawn

Y Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) sy’n darparu’r ffocws strategol a’r arweinyddiaeth broffesiynol i GIG Cymru er mwyn hyrwyddo lles plant a’r broses o’u diogelu, gan gynnwys y plant a’r bobl ifanc hynny sy’n cael gofal gan eu Hawdurdod Lleol. Ers 2016, mae’r Tîm wedi esblygu ac wedi ehangu ei ffocws strategol i gynnwys oedolion sydd mewn perygl. (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).

Sut rydym yn ei gyflawni

Adnodd ar gyfer iechyd y cyhoedd

Mae’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru) yn gweithio ledled Cymru gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gyflawni’n lleol ar gyfer Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG, y Byrddau Diogelu Plant Rhanbarthol a’r Byrddau Diogelu Rhanbarthol (Byrddau Diogelu Rhanbarthol ar gyfer oedolion).
 
Mae gweithwyr proffesiynol dynodedig yn ffynhonnell o gyngor arbenigol annibynnol ar faterion iechyd, o safbwynt ‘Cymru gyfan’. Mae gan y Tîm sgiliau penodol o ran bod yn ffynhonnell arbenigedd annibynnol ym maes iechyd, a hynny mewn cynnal adolygiadau o achosion o gamdriniaeth ac esgeulustod difrifol, yn ogystal â hunanladdiad ymysg plant (Adolygiadau Ymarfer).

Rhwydweithio

Bu cryfder y Rhwydwaith yn deillio o’r ffaith iddo roi mwy o ffocws ar ymchwilio gwerthfawrogol ac ar ddysgu drwy rannu’r arferion da sydd i’w cael mewn timau ledled Cymru. Mae pynciau amrywiol wedi’u rhannu, o ymgysylltu â phlant a phobl ifanc wrth ddylunio gwasanaethau, i stori claf am ymateb ei sefydliad i’w gamdriniaeth ddomestig, i ddysgu gan yr adolygiadau o laddiadau mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gynhelir gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ers mis Ebrill 2016, mae ffocws y Rhwydwaith wedi ehangu i gynnwys oedolion sydd mewn perygl, drwy gyfrwng Cylch Gorchwyl ehangach, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.