Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiadau o Ymarfer Plant ac Oedolion

Mae rhwymedigaeth ar bob asiantaeth sy’n gofalu am blant ac oedolion sydd mewn perygl, sy’n eu cynorthwyo, ac sy’n eu hamddiffyn, i sicrhau bod y safonau uchaf o ran gofal, cymorth ac amddiffyn yn cael eu darparu a’u cynnal drwy’r amser.
 
Fel rhan o’r rhwymedigaeth hon, mae’n ofynnol dysgu gan gamgymeriadau, yn arbennig y rhai sy’n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i blentyn neu oedolyn mewn perygl. Mae Adolygiadau o Ymarfer Diogelu yn cael eu cynnal ar ran y Byrddau Diogelu Rhanbarthol. 
 
Maent yn ddull y gall pob asiantaeth bartner ei ddefnyddio i nodi’r gwersi y gellir eu dysgu gan achosion arbennig o gymhleth neu anodd, ac i weithredu newidiadau er mwyn gwella gwasanaethau yn sgil y gwersi hyn.
 
Diben cyffredinol y system adolygu yw hyrwyddo diwylliant cadarnhaol o ddysgu amlasiantaethol, gan gynnwys hyrwyddo’r arferion gorau.

 

Os hoffech anfon unrhyw adborth am dudalennau’r Tîm Diogelu Cenedlaethol (GIG Cymru), llenwch ein ffurflen adborth ar-lein.