Neidio i'r prif gynnwy

Eich cadw'n ddiogel yn eich apwyntiad sgrinio ymlediad aortig abdomenol (YAA)

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu am eich iechyd chi.

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn bresennol oherwydd efallai y byddwn yn gallu cynnig yr apwyntiad hwn i rywun arall.

Eich cadw'n ddiogel yn eich apwyntiad

Mae’r mesurau canlynol ar waith er mwyn cadw pawb yn ddiogel yn ystod eu hapwyntiad.

  • Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd. 
  • Mae hylif diheintio dwylo ar gael.
  • Ewch i’ch apwyntiad ar amser. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os ydych yn hwyr, efallai na fyddwn yn gallu eich sgrinio.
  • Efallai yr hoffech chi wisgo gorchudd wyneb (mwgwd) wrth ddod i'ch apwyntiad. Os nad oes gennych un, gallwch ofyn i aelod o staff am un.
  • Os oes angen cyfieithydd arnoch, os ydych yn dod gyda gofalwr neu angen cymorth yn eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn eich apwyntiad i drafod hyn.

Cofiwch, er mwyn atal yr haint rhag lledaenu, peidiwch â mynd i gael eich sgrinio os ydych yn sâl.

Cysylltwch â ni os:

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad sgrinio YAA.

Cysylltwch â'ch meddygfa os ydych:
  • Yn poeni am unrhyw newidiadau yn eich iechyd. Peidiwch ag aros am wahodd i gael eich sgrinio.
     

Rhagor o wybodaeth am sgrinio a’r gwahanol brofion.