Neidio i'r prif gynnwy

High-risk Human Papillomavirus result not available/unreliable

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud nad oeddech yn gallu profi fy sampl am HPV. Pam na allech brofi fy sampl?

Roedd y prawf yn annibynadwy ac oherwydd na allem ei brofi, bydd angen i chi gael y sampl wedi'i hailadrodd heb fod yn gynt na 12 wythnos.

27/06/22
Nid wyf yn hoffi mynd i gael sgrinio serfigol. A yw'n bwysig fy mod yn dychwelyd ar gyfer prawf sgrinio serfigol arall?

Ydy, gan fod angen i ni ailadrodd y prawf er mwyn gallu rhoi'r canlyniad i chi. Mae angen i ni allu gwirio a oes gennych HPV/newidiadau annormal i'r celloedd, er mwyn atal canser ceg y groth rhag datblygu.

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud nad oeddech yn gallu profi fy sampl am HPV. Pam na allech brofi fy sampl?

Mae nifer o resymau pam nad ydym efallai wedi gallu prosesu eich sampl. Yn aml, mae hyn oherwydd gwall gan y sawl sy'n cymryd sampl neu broblem gyda'r ffiol y cafodd eich sampl ei hanfon ynddi.   Oherwydd canlyniadau eich profion sgrinio serfigol blaenorol, rydym wedi eich atgyfeirio i glinig colposgopi er mwyn gwirio eich ceg y groth am unrhyw newidiadau, felly mae'n bwysig eich bod yn mynychu.

27/06/22
Pam yr wyf wedi cael fy atgyfeirio yn ôl i'r clinig colposgopi yn hytrach na mynd am brawf sgrinio arall? A oes rhywbeth o'i le?

Gan nad ydym wedi gallu rhoi canlyniad i chi o'ch dau brawf sgrinio serfigol diwethaf, rydym wedi eich atgyfeirio yn ôl i'r clinig colposgopi gan fod angen i ni sicrhau nad oes newidiadau i'ch ceg y groth.