Weithiau, yn ystod y prawf sgrinio serfigol, nid yw'r nyrs neu'r meddyg yn gallu casglu digon o gelloedd o geg y groth. Mae hyn yn golygu na ellir gwirio'r sampl am newidiadau i'r celloedd, felly ni ellir rhoi canlyniad cywir.
Argymhellwn eich bod yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol arall heb fod yn gynt na 12 wythnos ar ôl eich prawf sgrinio gwreiddiol, mae hyn er mwyn galluogi i'r celloedd dyfu'n ôl.
Rydym yn gofyn i gyfranogwyr aros 12 mis i alluogi'r celloedd ar eich ceg y groth dyfu'n ôl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn ddarllen celloedd eich prawf nesaf.
Rydym yn deall, gyda chanlyniad HPV positif y gall gorfod aros beri pryder. Mae’n bwysig eich bod yn aros am 12 wythnos er mwyn galluogi'r celloedd ar eich ceg y groth i dyfu'n ôl, bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn roi canlyniad cywir i chi.
Os ydych yn bryderus iawn, siaradwch â'r meddyg neu'r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â'r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol, a all roi cyngor ar eich hanes sgrinio unigol.
Gan eich bod yn HPV positif a heb wirio eich celloedd, ni allwn roi canlyniad cywir i chi. Mae canser ceg y groth yn brin iawn. Fodd bynnag, rydym yn deall y gall oedi i'ch canlyniad sgrinio serfigol beri pryder. Os ydych yn bryderus, siaradwch â'r meddyg neu'r nyrs a gymerodd eich sampl neu cysylltwch â'r nyrs sgrinio serfigol ranbarthol, a all roi cyngor i chi yn seiliedig ar eich hanes sgrinio unigol.
Mae’n bwysig eich bod yn mynd i gael prawf sgrinio serfigol arall heb fod yn gynt na 12 wythnos ar ôl eich prawf sgrinio gwreiddiol, mae hyn er mwyn galluogi'r celloedd i dyfu'n ôl.
Ydy, gan fod angen i ni ailadrodd y prawf er mwyn gallu rhoi'r canlyniad i chi. Mae angen i ni allu gwirio a oes gennych HPV/newidiadau annormal i'r celloedd, er mwyn atal canser ceg y groth rhag datblygu