Neidio i'r prif gynnwy

Frequently Asked Questions -

27/06/22
Mae fy llythyr yn dweud fy mod yn HPV negatif, ond nid ydych wedi gwirio fy nghelloedd am newidiadau. Pam nad ydych wedi edrych ar fy nghelloedd?

Mae newidiadau i'r celloedd yn cael eu hachosi gan HPV. Os nad oes HPV wedi'i ganfod ar eich prawf nid oes angen i ni edrych ar y celloedd. Os na chaiff HPV ei ganfod, nid oes angen i ni archwilio eich celloedd oherwydd bod eich risg o ddatblygu newidiadau i'r celloedd yn isel iawn.

Rydym yn gwybod bod hyn y peri pryder i rai menywod, ond mewn gwirionedd mae prawf sy'n dangos dim HPV yn fwy dibynadwy na dod o hyd i gelloedd normal.

27/06/22
Er fy mod yn HPV negatif, rwyf am i'n celloedd gael eu gwirio. A allaf gael hyn wedi'i wneud?

Na, os na chaiff HPV ei ganfod, nid oes angen i ni archwilio'r celloedd oherwydd bod eich risg o ddatblygu newidiadau i'r celloedd yn isel iawn. Rydym yn gwybod bod hyn y peri pryder i rai menywod, ond mewn gwirionedd mae prawf sy'n dangos dim HPV yn fwy dibynadwy na dod o hyd i gelloedd normal.

27/06/22
Rwy'n HPV negatif, felly pam rydych yn fy ngwahodd i gael fy sgrinio eto ymhen 12 mis?

Ar ôl y prawf gwella cyntaf – Gan eich bod wedi cael triniaeth mewn clinig Colposgopi, rydym yn eich monitro'n agosach i sicrhau bod y driniaeth wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn golygu cael profion sgrinio serfigol amlach am gyfnod byr.

 

I bobl sydd ag RVI – Gan fod gennych gyflwr a allai effeithio ar eich system imiwnedd, rydym yn eich monitro'n agosach. 

27/06/22
Rwy'n HPV negatif, felly pam rydych yn fy ngwahodd i gael fy sgrinio yn gynharach na'r ailalw rheolaidd arferol ymhen pum mlynedd?

Gan eich bod wedi'ch gweld mewn clinig Colposgopi, rydym yn eich monitro'n agosach. Mae hyn golygu profion sgrinio serfigol amlach am gyfnod byr. Os yw eich prawf sgrinio serfigol nesaf yn HPV negatif, byddwn yn eich gwahodd i gael sgrinio pellach ymhen 5 mlynedd.

27/06/22
A yw'n ddiogel atal fy ngwahoddiadau os nad ydych wedi gwirio fy nghelloedd?

Ydy, mae'n ddiogel. Yng Nghymru, mae unigolion sy'n gallu cael sgrinio serfigol yn cael eu gwahodd hyd at 64 oed. Mae'r rhaglen sgrinio yn dod i ben bryd hynny oherwydd mae'n annhebygol iawn y bydd unigolion heb HPV (feirws papiloma dynol) ar yr adeg honno yn mynd ymlaen i ddatblygu canser ceg y groth yn ddiweddarach mewn bywyd.

 

Er bod canser ceg y groth yn digwydd mewn unigolion hŷn, mae’n aml mewn pobl nad ydynt wedi cael unrhyw sgrinio, neu nad ydynt wedi cael digon o brofion sgrinio yn y gorffennol.

Hyd yn oes os oedd eich holl brofion yn y gorffennol yn normal, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i'ch meddyg teulu am unrhyw waedu anarferol, rhedlif neu symptomau eraill. Mae hyn yn cynnwys:

 

  • Gwaedu ar ôl cael rhyw, rhwng mislifoedd neu ar ôl y menopos
  • Rhedlif newydd neu wahanol o'r wain (newid o ran lliw, swm neu dewdra)
  • Poenau yn rhan isaf y bol neu'r cefn, neu boen yn ystod rhyw