Neidio i'r prif gynnwy

Eich gwahoddiad a'ch apwyntiad

Pwy gaiff ei sgrinio?

Mae merched a phobl â cheg y groth rhwng 25-64 oed yn cael eu sgrinio bob pum mlynedd. 

Os ydych yn 65 oed neu'n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth), yna gallwch ofyn am gael un.

Mae’n bosibl y bydd pobl drawsryweddol neu anneuaidd yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau gwybodaeth i bobl drawsryweddol neu anneuaidd.

Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw symptomau. Peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio sefigol. 

 

Sut byddaf yn cael fy ngwahodd?

Sgrinio Serfigol Cymru sy'n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru, gan gynnwys anfon gwahoddiadau.  Rydym yn derbyn eich manylion cyswllt gan restr eich meddyg, felly mae'n bwysig bod gan eich meddyg eich enw a'ch cyfeiriad cywir.

Bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn anfon llythyr atoch yn y post i drefnu apwyntiad.  

Os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg, cysylltwch â ni i wirio a allwch gael prawf sgrinio serfigol.  Rhowch wybod i ni os byddwch chi’n symud, oherwydd bydd angen i chi lenwi ffurflen newid cyfeiriad.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio nad oes ei angen arnynt.  Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni fel y gallwn roi'r gorau i anfon gwahoddiadau atoch.

Os ydych chi'n drawsryweddol neu'n anneuaidd ac wedi'ch cofrestru gyda'ch meddyg fel gwryw a bod gennych chi geg y groth, ni fyddwch chi'n cael eich gwahodd, ond mae'n bwysig eich bod chi'n cael eich sgrinio.  Cysylltwch â ni neu'ch meddyg, fel y gallwch chi gael gwahoddiad.

 

 A oes unrhyw eithriadau?

  • Mae unigolion sydd angen apwyntiad dilynol ar ôl darganfod newidiadau i’r celloedd yn aml yn cael eu gwahodd yn amlach. Mae hyn yn cynnwys y rhai dan 25 oed sydd â newidiadau gradd uchel i’r celloedd.  
  • Cynghorir unigolion sydd â Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) i gael eu sgrinio bob blwyddyn nes eu bod yn 65 oed oherwydd efallai y byddant yn ei chael yn anos cael gwared ar HPV. 

 

Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf?

Deall yr wybodaeth

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen help i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â ni. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, efallai yr hoffech ymweld â'n tudalennau Hawdd eu Deall, BSL, Sain a Fideo. 

 

 

Mynd i fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol i gael eich/ei sgrinio, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig cyn yr apwyntiad os:

 

  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad yw’r Gymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf i chi.
  • Oes anabledd gennych chi, fel y gall y practis meddygon teulu neu'r clinig gynnig apwyntiad hygyrch i chi.
  • Ydych yn defnyddio ci cymorth.
  • Oes angen i ofalwr ddod gyda chi.
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
  • Oes gennych atwrneiaeth dros iechyd a llesiant ar gyfer yr unigolyn sydd wedi cael ei wahodd. Byddai angen i chi ddod ag ID a'r ddogfen Atwrneiaeth gyda chi i'w apwyntiad.

 

Teithio i fy apwyntiad

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael cymorth i deithio i'ch apwyntiad, gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu’ch cynorthwyo chi.

 

Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I'r rhai sy'n gymwys, mae'r cynllun yn cefnogi'r gost o deithio i'r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIGam ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Ewch i’n tudalennau gwe costau byw i gael rhagor o wybodaeth  icc.gig.cymry/costau-byw


Eich apwyntiad sgrino serfigol

 

Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?

Gallwch gael eich prawf sgrinio serfigol yn eich practis meddygon teulu.  Efallai y bydd yn bosibl ei gael mewn clinig iechyd rhywiol. Os hoffech gael eich gweld gan nyrs neu feddyg benywaidd, gallwch ofyn am hyn pan fyddwch chi’n archebu eich apwyntiad.

 

Newid fy apwyntiad

Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad, cysylltwch â'ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol.  Mae modd trefnu apwyntiad arall.

Dim ond hyn a hyn o apwyntiadau ar gyfer profion sgrinio serfigol sydd ar gael.  Rhowch wybod i'ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol os nad ydych yn bwriadu mynd i’ch apwyntiad, fel bod modd iddynt ei gynnig i rywun arall.

Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad sgrinio serfigol, cysylltwch â'ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol i drefnu apwyntiad arall. Mae’n bwysig i chi beidio ag aros i gael eich gwahodd eto.

 

 

Beth os nad ydw i am gael fy sgrinio?

Os nad ydych am i unrhyw wahoddiadau gael eu hanfon atoch yn y dyfodol, gallwch gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru a byddwn yn anfon ffurflen 'optio allan' atoch.

Os byddwch chi’n penderfynu optio allan o gael eich sgrinio, gallwch ddewis 'optio i mewn' eto unrhyw bryd.

 

Paratoi ar gyfer fy apwyntiad

Cyn eich apwyntiad:

  • Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.
  • Cysylltwch â'ch practis meddygon teulu neu’ch clinig os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad.
  • Cysylltwch â'ch practis meddygon teulu os ydych chi'n ofalwr i'r person sydd wedi'i wahodd i gael prawf sgrinio, neu os oes angen help arnoch i fynd ar wely archwilio ac oddi arno. 
  • Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich llythyr gwahoddiad neu’r daflen.

Ni allwch gael eich profi yn ystod eich mislif.   Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad cyn neu ar ôl eich mislif.  Mae'n ddefnyddiol gwybod dyddiad eich mislif diwethaf (os ydych yn dal i'w cael).

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn teimlo embaras, yn enwedig os byddan nhw’n cael eu profi am y tro cyntaf. Rhowch wybod i'r sawl sy’n cymryd eich sampl os ydych chi'n poeni neu’n teimlo'n bryderus am gael y prawf.

 

Gwybodaeth am y prawf

Bydd y prawf yn cael ei gymryd mewn ystafell glinig.  Cyn cymryd y prawf, bydd y sawl sy'n cymryd y sampl yn gwneud y canlynol:

  • Cadarnhau’ch manylion
  • Siarad â chi am yr hyn y mae'r prawf yn ei gynnwys.
  • Gofyn i chi am unrhyw broblemau meddygol sydd gennych.
  • Gofyn i chi am unrhyw feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.

Bydd angen i chi dynnu'ch dillad isaf a mynd ar wely.  Bydd gofyn i chi orwedd ar eich cefn, gan blygu’ch pengliniau a rhoi'ch traed ar y gwely. Mae gan rai clinigau welyau arbennig, sy'n cynnal eich coesau.

Bydd y sawl sy'n cymryd y sampl yn rhoi sbecwlwm (offeryn meddygol) yn eich fagina yn ysgafn. Mae modd agor y sbecwlwm, er mwyn gweld ceg y groth.  Yna, bydd yn symud brwsh neilon meddal dros geg y groth i gymryd sampl o’r celloedd.  Dim ond ychydig o funudau y bydd y prawf yn ei gymryd. 
 
Ceg y groth yw rhan isaf eich croth (fe’i gelwir yn 'wterws' hefyd).  Weithiau fe'i gelwir yn 'wddf y groth'.  Mae ceg y groth yn cysylltu â phen uchaf eich fagina.

Bydd y sampl yn cael ei roi mewn pot o hylif ac yna bydd y sbecwlwm yn cael ei dynnu'n araf. Bydd y sampl yn cael ei anfon i'r labordy.     

Mae’n bosibl y bydd y prawf yn anghyfforddus i rai pobl.  Dywedwch wrth y sawl sy'n cymryd y sampl os ydych chi am i’r prawf ddod i ben ar unrhyw unrhyw adeg.  Nid yw'n anarferol cael ychydig bach o waedu ar ôl y prawf.

Cwestiynau Cyffredin.