Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â Sgrinio

Beth yw sgrinio cyn geni?

Bydd menywod sy'n feichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn-geni  yn ystod eu beichiogrwydd i wirio eu iechyd ac iechyd y babi.

Bydd bydwraig yn esbonio'r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o'ch gofal cynenedigol arferol. Gall sgrinio gynnwys sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Mae'n bwysig penderfynu pa brofion, os o gwbl, sy'n iawn i chi.

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio.

Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Pa brofion sgrinio cyn geni sy'n cael eu cynnig?

Mae’r prawf sgrinio cyn geni’n cynnwys:

  • Sgrinio am syndrom Down, syndrome Edwards a syndrome Patau
  • Profion gwaed sy’n chwilio am:                                                                                                        
    • Heintiau (HIV, Hepatitis B, Siffilis)
    • Anhwylderau ar y gwaed (cryman-gell a thalasaemia)
    • Grwpiau gwaed a gwrthgyrff
  • Sganiau uwchsain sy’n chwilio am;
    • Dyddiad y beichiogrwydd, nifer y babanod, annormaleddau yn y babi

Nid fydd angen profion pellach ar y myafrif o ferched. Fodd bynnag, os yw'ch prawf sgrinio yn awgrymu bod gennych chi, neu'ch babi siawns uwch o gawl cyflwr penodol, cynigir profion pellach.

Ynglŷn â'r prawf

Ymwelwch â'ch bydwraig yn gynnar i'ch helpu i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eich
beichiogrwydd.

  • Mae sgrinio cyn geni yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am eich iechyd chi a'ch babi.
  • Gwnewch apwyntiad gyda bydwraig cyn gynted ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog.
  • Byddwch yn cael gwybodaeth i'ch helpu i wneud dewis am gymryd rhan mewn sgrinio cyn geni.
  • Bydd y fydwraig yn siarad â chi am y gwahanol brofion y gallwch eu cael ac yn ateb eich cwestiynau fel rhan o'ch gofal cynenedigol arferol.
  • Nid yw profion sgrinio cyn geni 100% yn gywir ac efallai y bydd rhai cyflyrau'n cael eu methu.
  • Efallai y cynigir profion neu driniaeth bellach i chi ar ôl eich sgrinio cyn geni.

Eich canlyniadau

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau’ch profion.

Eich apwyntiad

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gallwch gael y profion.

Rhesymau dros gymryd rhan

Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.

Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.

Darganfod mwy