Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi ac eich babi

Dyma ddolen i'n datganiad preifatrwydd sy'n trafod sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi/eich babi. Ceir ychydig o feysydd ychwanegol yr hoffem dynnu sylw atynt sy'n benodol i sgrinio.

 

Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen hon, bydd angen i ni drin rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:

ymweld â'r wefan

e-bost: PHW.InformationGovernance@wales.nhs.uk, neu

ffôn: 029 20 104307.

Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os gwelir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a oedd yn dangos canlyniad nad oedd amheuaeth.

Dim ond fel ystadegau yr ydym byth yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau sydd ei angen, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'r wybodaeth bersonol yn yr un modd â ni.

Ein holl gofnodion papur a chyfrifiadur eu storio a'u prosesu'n ddiogel, i ffwrdd o fynediad cyhoeddus.

Rhannu eich gwybodaeth

Rydym yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i'r rhai y mae angen iddynt wybod er mwyn darparu'r gofal gorau i chi. Os ydym yn sgrinio chi/eich babi ac yn canfod bod angen rhagor o brofion neu driniaeth, mae angen i ni rannu'r wybodaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill a'ch meddyg teulu.
Rydym hefyd yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol i Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru os bydd canser yn cael ei ganfod o ganlyniad i sgrinio, ac i Gofrestr Anomaleddau Cynhenid Cymru os bydd eich babi'n cael diagnosis o golli clyw, neu un o'r cyflyrau y sgrinnir amdanynt yn y prawf pigo sawdl babanod newydd-anedig. Mae'r cofrestrau clefydau hyn yn rhoi gwybodaeth am batrwm y cyflyrau yng Nghymru. Mae'n ein galluogi i gynllunio gwasanaethau a chanfod ‘clystyrau’ o glefydau y gellir eu hatal.
Mae gan y sefydliadau/unigolion yr ydym yn rhannu eich gwybodaeth â hwy yr un ddyletswydd cyfrinachedd â'r Adran Sgrinio, ac nid ydynt byth yn cyhoeddi gwybodaeth sy'n galluogi i chi gael eich adnabod.
 
Mae'r datganiad preifatrwydd yn cynnwys cyfeiriad at gontractwyr trydydd parti. Enghraifft o hyn ym maes Sgrinio yw lle mae rhai o'n llythyrau'n cael eu hanfon o gwmni allanol ar ein rhan.

Ymchwil ac achwilio

Weithiau, gofynnir i ni ddarparu gwybodaeth ar gyfer treialon ymchwil neu archwilio. Mae pob cais am wybodaeth yn cael ei adolygu gan Gyfarwyddwr yr Adran Sgrinio a rhaid i'r cais gael ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr a'r Gwarcheidwad Caldicott (y person sy'n gyfrifol am gyfrinachedd a'r defnydd o wybodaeth bersonol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru). Mae'r rhan fwyaf o geisiadau'n gofyn am wybodaeth ddienw yn unig, felly ni ellir eich adnabod. Byddem dim ond yn darparu gwybodaeth sy'n galluogi adnabod chi neu eich babi ar ôl cysylltu â chi i gael eich caniatâd a lle ceir rheswm cyfreithlon i wneud hynny. Efallai y byddwn hefyd yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n gysylltiedig â'r rhaglen sgrinio. Pe byddech yn penderfynu peidio â chyfranogi, ni fyddai hyn yn effeithio ar y gwasanaeth a gewch gan yr Adran Sgrinio yn y dyfodol mewn unrhyw ffordd.

Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data

Gallwch wneud cais am wybodaeth ynghylch ein sefydliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a gallwch ofyn am ba wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch o dan y Ddeddf Diogelu Data.

I wneud cais am y wybodaeth hon gallwch gysylltu â ni drwy'r wefan, neu anfon e-bost neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r manylion isod.

Rhagor y wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu brosesu eich data personol dylech gysylltu â'r swyddfa Diogelu Data gan ddefnyddio'r manylion isod.

Y Swyddog Diogelu Data
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru,
Cwr y Ddinas 2,
Stryd Tyndall,
Caerdydd
CF10 4BZ
Ffôn: 02920 104307

E-bost: PHW.InformationGovernance@wales.nhs.uk

Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â'r Adran Sgrinio neu eich hanes sgrinio eich hun, cysylltwch â'r canlynol:

Y Cyfarwyddw
Yr Adran Sgrinio
Iechyd Cyhoeddus Cymru
2 Cwr y Ddinas
Stryd Tyndall
Caerdydd
CF10 4BZ

Screening.feedback@wales.nhs.u