Neidio i'r prif gynnwy

Adran 11 - Beth yw prawf meintiol adwaith cadwynol fflworoleuedd-polymesarau (QF-PCR)?

Prawf QF-PCR ar samplu filws corionig (CVS) neu sampl amniosentesis ar ôl canlyniad siawns-uwch mewn profion cyfunol sgrinio pedwarplyg neu ganlyniad siawns uchel mewn prawf NIPT


Bydd y prawf QF-PCR yn chwilio am y tri chyflwr cromosom canlynol yn y babi.

  • Syndrom Down (T21)
  • Syndrom Edwards (T18)
  • Syndrom Patau (T13)

Ni fydd yn dweud wrthych beth yw rhyw y babi.

 

Prawf QF-PCR am reswm arall heblaw canlyniad siawns uwch/uchel

Os bydd eich prawf QF-PCR yn cael ei wneud am unrhyw reswm arall, bydd eich obstetregydd neu gynghorydd geneteg yn trafod y cyflyrau penodol y bydd y prawf yn rhoi canlyniadau i chi ar eu cyfer.

 

Canlyniad QF-PCR

Os ydych wedi cael prawf amniosentesis, bydd eich canlyniad QF-PCR ar gael o fewn tri diwrnod calendr fel arfer.

Ni fydd tua 4% (1 mewn 25)  o brofion amniosentesis yn gallu rhoi canlyniad o fewn y cyfnod hwn. Yn yr achosion hyn mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig yn cael eu tyfu yn y labordy. Bydd y canlyniad hwn ar gael ymhen 10 i 14 diwrnod calendr. Nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.

Os ydych wedi cael y prawf CVS mae’r canlyniad ar gael fel arfer o fewn 10 i 14 diwrnod calendr.

Bydd y person sy’n cymryd y sampl wedi gofyn i chi sut yr hoffech chi dderbyn eich canlyniadau.

Mewn tua 4% neu 5% (pedwar neu bump mewn 100) prawf QF-PCR efallai y bydd angen samplau gwaed gennych chi a thad y babi i’n helpu i gael canlyniad cliriach. Unwaith eto, nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.

Os yw’r prawf wedi dangos bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, bydd y labordy yn cynnal prawf arall o’r enw prawf caryoteip i weld a allai fod gan unrhyw fabanod eraill y gallech eu cael yn y dyfodol y cyflwr hwn.