Neidio i'r prif gynnwy

Adran 16 - Beth yw fy opsiynau os oes gan fy mabi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau neu newid cromosomaidd arall a geir ar brawf mewnwthiol?

Bydd newid cromosomaidd yn cael ei ganfod mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich beichiogrwydd. Gallwch drafod y canlyniad gydag obstetregydd a bydwraig sy’n arbenigo mewn profion sgrinio cynenedigol. Byddwch hefyd yn gallu trafod y canlyniad gyda rhywun sy’n arbenigo mewn geneteg os bydd angen.

Mae canfod bod gan eich babi yn y groth newid cromosomaidd yn gallu achosi cymysgedd o emosiynau, ac mae penderfynu beth i’w wneud yn anodd. Mae yna arbenigwyr sy’n gallu rhoi gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghorwyr meddygaeth y ffetws, genetegwyr a phediatregwyr. Mae’r rhan fwyaf o fenywod eisiau ac angen rhywfaint o gymorth. Gallai hyn fod gan bartner, teulu neu ffrindiau neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch. Gall eich partner neu ffrind ddod i apwyntiadau ysbyty gyda chi os byddwch yn dymuno.

Mae sefydliadau cymorth ar gael hefyd i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Gallwch wylio rhai straeon teuluol ar fyw gyda naill ai syndrom Down neu syndrom Edwards yn: icc.gig.cymru/sgrinio-cyn-geni

Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi gyflwr cromosomaidd, ac efallai y bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd. Os byddwch yn penderfynu parhau â’r beichiogrwydd, gall yr unigolyn sy’n gofalu amdanoch gytuno ar gynllun gyda chi ar gyfer gweddill eich beichiogrwydd ac ar ôl i’ch babi gael ei eni.

Mae’r rhain yn benderfyniadau anodd a byddwch yn cael amser a gwybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i chi.

Beth bynnag fydd eich penderfyniad, bydd y bobl sy’n gofalu amdanoch yn parchu eich dymuniadau.