Neidio i'r prif gynnwy

Adran 15 - Beth sy'n digwydd os bydd siawns uwch y bydd gan fy mabi newid cromosomaidd meu enetig oherwydd rhywbeth a welwyd ar sgan anomaledd y ffetws?

Byddwch wedi cael gwybod bod rhywbeth a welwyd ar eich sgan anomaledd y ffetws sy’n golygu efallai fod gan eich babi siawns uwch o gael newid cromosomaidd neu gyflwr genetig. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau eich sgan gyda chi ac yn dweud wrthych pa brofion y byddant yn eu cynnig. Gall hyn gynnwys prawf arae SNP neu brofion genetig eraill.


Efallai y byddwn yn cynnig amniosentesis i chi i weld a oes gan y babi newid cromosomaidd neu gyflwr genetig. Os byddwn yn cynnig prawf amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y prawf hwn achosi camesgoriad.


Os ydych wedi cael samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis yn gynharach yn eich beichiogrwydd ar gyfer canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, efallai y bydd y labordy yn gallu cynnal profion ychwanegol ar y sampl i chwilio am newidiadau eraill mewn cromosomau neu ennynau.