Neidio i'r prif gynnwy

Adran 9 - Beth yw prawf samplu filws corionig (CVS)?

Gweithdrefn lle bydd obstetregydd yn tynnu darn bach o feinwe o’r brych yn ystod eich beichiogrwydd yw CVS. Mae’r celloedd yn y feinwe yn cael eu profi yn y labordy er mwyn edrych ar gromosomau eich babi. Fel arfer, gallwch gael prawf CVS rhwng wythnosau 11 ac 14 eich beichiogrwydd.

Mae cael CVS yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% o feichiogrwydd (tua 1 mewn 200). Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl CVS mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% o feichiogrwydd (1 mewn 100).

Mae camesgoriad yn fwyaf tebygol o ddigwydd hyd at dair wythnos ar ôl CVS. Nid oes neb yn gwybod pam mae hyn yn digwydd nac i bwy y bydd yn digwydd. Mae’n gallu digwydd p’un a oes gan eich babi newid cromosomaidd ai peidio. Mae prawf CVS yn cael ei wneud yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd, a dyna pryd mae camesgoriadau ychydig yn fwy cyffredin ymhlith pob menyw feichiog.

Oherwydd bod CVS yn brawf arbenigol, efallai na fydd yn bosibl i chi ei gael yn lleol. Yn lle hynny, efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn uned famolaeth arall.

Bydd eich bydwraig neu obstetregydd yn gallu esbonio’r prawf i chi. Chi sydd i benderfynu a ydych am gael y prawf hwn ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu cael y prawf CVS, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd yn cytuno i’r prawf cyn ei gynnal.

 

Paratoi ar gyfer CVS

  • Gallwch gael brecwast neu ginio ysgafn cyn eich apwyntiad.
  • Bydd angen i’ch pledren fod yn llawn ar gyfer y sgan y byddwch yn ei gael cyn y CVS.
  • Efallai y bydd yn rhaid i chi wagio eich pledren ar gyfer y prawf CVS ei hun.
  • Efallai y byddwch yn fwy cyfforddus yn gwisgo dillad llac.
  • Gallwch ddod â’ch partner neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi yn ystod ac ar ôl y prawf, ond peidiwch â dod ag unrhyw blant gyda chi.
  • Os yw’n bosibl, dylech drefnu i rywun eich gyrru adref.

 

Cael y prawf CVS

Mae’r prawf ei hun yn cymryd tua 20 munud a byddwch yn ei gael fel claf allanol, yn y clinig cyn geni fel arfer. Byddwch yn effro yn ystod y prawf, ac yn gorwedd i lawr.

Byddwch yn cael sgan uwchsain cyn y prawf CVS. Mae hyn er mwyn cadarnhau safle’r babi ac i ddod o hyd i’r lle gorau i gymryd y sampl o’r brych.

Bydd eich obstetregydd yn rhoi pigiad o anesthetig lleol i chi er mwyn rhewi croen eich abdomen. Yna bydd eich abdomen yn cael ei lanhau gyda hylif gwrthfiotig er mwyn lleihau’r risg o haint. Bydd yr obstetregydd yn rhoi nodwydd drwy eich croen a wal eich croth ac yna’n cymryd sampl fach o’r brych. Bydd yr obstetregydd yn gwylio’r sgan uwchsain er mwyn gwybod lle i roi’r nodwydd ac er mwyn osgoi mynd yn rhy agos at eich babi. Efallai y bydd y prawf hwn yn teimlo ychydig yn anghyfforddus.

Yna bydd yr obstetregydd neu’r fydwraig yn archwilio’r sampl o dan ficrosgop er mwyn gweld a oes digon o feinwe i gynnal y prawf. Os na fydd digon, bydd angen i’r obstetregydd gymryd sampl arall.

Gofynnir i chi hefyd roi sampl gwaed er mwyn i’r labordy fod yn siŵr bod y canlyniadau o’r sampl CVS yn ganlyniadau ar gyfer eich babi yn hytrach na chi. Weithiau ni fydd yn bosibl cynnal y prawf oherwydd safle’r babi. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu cynnal y prawf ar ddiwrnod arall.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?

Ar ôl y prawf dylech orffwys yn y clinig am hyd at 30 munud. Efallai y cewch boenau yn eich bol ar ôl y prawf, yn debyg i boenau misglwyf.

Os oes gennych grŵp gwaed Rhesws-negatif, byddwch yn cael cynnig pigiad anti-D ar ôl y prawf. Mae hyn er mwyn lleihau’r siawns o wrthgyrff yn datblygu yn eich gwaed, sy’n gallu digwydd os mai Rhesws-negatif yw grŵp gwaed eich babi

Efallai y bydd rhai obstetryddion yn eich cynghori i beidio gwneud gormod am ychydig ddyddiau ar ôl y prawf, ac osgoi cael rhyw, osgoi codi unrhyw beth trwm a pheidio â gwneud ymarfer corff egnïol. Ni fydd angen i chi aros yn eich gwely drwy’r amser.

Os cewch unrhyw boen neu deimlad anghyfforddus, gallwch gymryd y dos arferol o paracetamol.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn teimlo’n normal eto ar ôl dau ddiwrnod.

 

Beth y dylech gadw golwg amdano

  • Poen difrifol, na allwch ei reoli drwy gymryd poenladdwyr ysgafn (fel paracetamol).
  • Unrhyw waedu neu unrhyw redlif annymunol o’ch gwain.
  • Unrhyw hylif sy’n gollwng o’ch gwain.
  • Os byddwch yn teimlo’n sâl yn ddirybudd, gyda thymheredd uchel neu symptomau tebyg i’r ffliw.

Nid yw’r symptomau hyn bob tro’n golygu bod problem, ond mae’n bosibl y bydd angen gofal a sylw pellach arnoch. I gael cyngor, cysylltwch â’r canlynol:

  • y clinig lle cawsoch y prawf CVS, neu
  • eich bydwraig