Neidio i'r prif gynnwy

Adran 4 - Beth yw syndrom Patau a byw gyda syndrom Patau?

Beth yw syndrom Patau?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 13 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Patau. Mae gan unigolyn â syndrom Patau 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Patau yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Patau. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Ni fydd profion cyn geni yn gallu dweud wrthych pa heriau penodol a allai fod gan eich babi.

Bydd tua 9 mewn 10 (90%) o fabanod â syndrom Patau yn marw cyn iddynt gael eu geni neu’n fuan ar ôl iddynt gael eu geni. O’r babanod hynny sy’n byw, bydd tua 1 mewn 8 (12%) yn byw am fwy na blwyddyn. Gall rhai babanod sy’n cael eu geni â mathau llai difrifol o syndrom Patau, fel y rhai â newid cromosomaidd mosäig, fyw y tu hwnt i flwyddyn a gallant fyw hyd nes eu bod yn oedolion, ond mae hyn yn brin.

Bydd gan bawb â syndrom Patau anableddau dysgu difrifol gydol eu hoes.

Mae sefydliadau cymorth ar gael hefyd i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Patau. Mae’r rhain yn cynnwys Support Organisaton for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT).

Bydd gan fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Patau amrywiaeth bach o gyflyrau ond byddant yn aml yn gyflyrau difrifol

  • Oedi sylweddol o ran eu datblygiad (pob babi)
  • Cyflyrau’r galon (llawer o fabanod)
  • Anawsterau bwydo (llawer o fabanod)
  • Yn fregus yn feddygol, yn arbennig cyflyrau anadlol (y rhan fwyaf o fabanod, yn arbennig pan fyddant yn fach)
  • Gwefus a thaflod hollt (rhai babanod)
  • Debygol o gael cyflyrau fel heintiau’r llwybr wrinol (UTI)

Ar ben arall y raddfa, mae ymchwil yn dangos, er enghraifft:

  • bod babanod a phlant yn gwneud cynnydd, waeth pa mor araf
  • bod babanod a phlant hŷn yn gallu cyfathrebu rhywfaint
  • bod rhai yn gallu sefyll a cherdded gyda chymorth
  • bod rhieni’n dweud yn gyson bod gan eu babanod a’u plant ansawdd bywyd da, am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol.

Bydd babanod a phlant â syndrom Patau yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, oherwydd bydd gan fabanod a phlant sydd â’r cyflwr hwn anghenion cymhleth.

Mae plant sy’n cael eu geni â syndrom Patau fel arfer yn datblygu ac yn dysgu’n fwy araf na phlant eraill. Bydd ganddynt amrywiaeth o heriau cymhleth.

Bydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig.