Neidio i'r prif gynnwy

Adran 3 - Beth yw syndrom Edwards a byw gyda syndrom Edwards?

Beth yw syndrom Edwards?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 18 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Edwards.  Mae syndrom Edwards hefyd yn cael ei alw'n trisomedd 18, neu T18. Mae gan unigolyn â syndrom Edwards 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis yn cael ei wneud o syndrom Edwards cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Edwards.

Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Ni fydd profion cyn geni yn gallu dweud wrthych pa heriau penodol a allai fod gan eich babi.

Bydd y rhan fwyaf o fabanod â syndrom Edwards yn marw cyn iddynt gael eu geni neu’n fuan ar ôl cael eu geni. O’r babanod hynny sy’n byw, bydd tua 13% (1 mewn 7) yn byw am fwy na blwyddyn. Mae rhai babanod sy’n cael eu geni â mathau llai difrifol o syndrom Edwards (fel y rhai â newid cromosomaidd mosäig) yn gallu byw hyd at blentyndod cynnar ond anaml iawn y byddant yn byw i fod yn oedolion.

Gallwch wylio rhai straeon teuluol ar fyw gyda syndrom Edwards yma.

Bydd gan bob unigolyn â syndrom Edwards anabledd dysgu difrifol am oes.

Mae sefydliadau cymorth ar gael i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Edwards. Mae’r rhain yn cynnwys Support Organisaton for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT)

Bydd gan fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Edwards amrywiaeth bach o gyflyrau ond byddant yn aml yn gyflyrau difrifol

  • Oedi sylweddol o ran eu datblygiad (pob babi)
  • Cyflyrau gyda’r galon (llawer o fabanod)
  • Anawsterau bwydo (llawer o fabanod)
  • Yn fregus yn feddygol, yn arbennig cyflyrau anadlol (y rhan fwyaf o fabanod, yn arbennig pan fyddant yn fach)
  • Gwefus a thaflod hollt (rhai babanod)
  • Debygol o gael cyflyrau fel heintiau’r llwybr wrinol (UTI)

Ar ben arall y raddfa, mae ymchwil yn dangos, er enghraifft:

  • bod babanod a phlant yn gwneud cynnydd, waeth pa mor araf
  • bod babanod a phlant hŷn yn gallu cyfathrebu rhywfaint
  • bod rhai yn gallu sefyll a cherdded gyda chymorth
  • bod rhieni’n dweud yn gyson bod gan eu babanod a’u plant ansawdd bywyd da, am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol.

Bydd babanod a phlant â syndrom Edwards yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, a fydd yn ymwybodol bod ganddynt siawns uwch o gael y cyflyrau meddygol a byddant yn cynnal profion i fonitro eu llesiant. Mae’n bosibl trin rhai o’r cyflyrau hyn yn effeithiol.

Mae plant sy’n cael eu geni â syndrom Edwards fel arfer yn datblygu ac yn dysgu’n fwy araf na phlant eraill. Bydd ganddynt amrywiaeth o heriau penodol. Bydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig.