Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - Beth yw cromosoma a beth sy'n achosi newidiadau cromosomaidd mewn babanod?

Mae pob cell yn cynnwys 23 pâr o gromosomau fel arfer. Mae’r rhieni yn cyfrannu un cromosom o’r sberm a’r wy i bob pâr o gromosomau yn y babi.

  • Weithiau mae newidiadau’n digwydd ar hap yn y sberm neu’r wy, sy’n arwain at gromosom ychwanegol ym mhob un o gelloedd y babi neu yn rhai ohonynt. Mae’r rhan fwyaf o gyflyrau cromosomaidd mewn babanod yn cael eu hachosi fel hyn. Nid yw unrhyw beth yr ydych chi neu dad y babi wedi’i wneud neu heb ei wneud yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth i’r math hwn o gyflwr.
  • Weithiau mae’r newidiadau’n gallu digwydd wrth i un cromosom ddatgysylltu a chysylltu â chromosom arall. Mae’r mathau hyn o newidiadau yn aml yn cael eu galw’n drawsleoliad, ac mewn syndrom Down, er enghraifft, maen nhw’n digwydd mewn tua  4% (1 mewns 25) o achosion.
  • Weithiau, mewn tua 1% (1 mewn 100) mae rhai o’r celloedd yn y corff yn cael eu heffeithio gan y newidiadau ond nid eraill. Mae hyn yn dueddol o olygu bod effaith newidiadau cromosomaidd yn llai difrifol. Yr enw ar hyn yw newid cromosomaidd mosäig.

Y math mwyaf cyffredin o newid cromosomaidd yw syndrom Down. Mae hyn yn cael ei achosi gan gopi ychwanegol o gromosom 21 mewn rhai o’r celloedd neu’r holl gelloedd. Mae copi ychwanegol o gromosom 18 yn achosi syndrom Edwards. Mae copi ychwanegol o gromosom 13 yn achosi syndrom Patau. Mae’r llun isod yn dangos y cromosomau o gelloedd babi o dan ficrosgop. Mae sgwâr o amgylch y tri chopi o gromosom 21 sy’n achosi syndrom Down − fe welwch fod pob un arall mewn parau.

Mae yna amrywiaeth eang o newidiadau posibl i’r cromosomau sy’n gallu effeithio ar fabanod mewn gwahanol ffyrdd.

Os yw’r fydwraig neu’r obstetregydd yn amau bod gan eich babi unrhyw newidiadau cromosomaidd eraill, byddant yn trafod y cyflyrau hynny gyda chi.