Neidio i'r prif gynnwy

Siffilis Adweithiol

Taflen wybodaeth i fenywod sydd wedi cael canlyniad adweithiol cychwynnol i brawf am HIV, hepatitis B neu siffilis mewn beichiogrwydd


Cyhoeddi Ionawr 2022, Rhifyn 3.
 

Cynnwys

― Cyflwyniad
Beth mae canlyniad y prawf gwaed wedi’i ddangos?
― Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?
― Mwy o brofion yn ystod eich beichiogrwydd
― Sut bydd bod â siffilis yn effeithio ar fy meichiogrwydd?
― Y camau nesaf
 

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Cyflwyniad

Pwrpas y daflen yma yw helpu i esbonio canlyniad un o’r profion gwaed a gawsoch chi’n ddiweddar.

Mae’r canlyniad rydych wedi’i gael oddi wrth y labordy’n cael ei alw’n ganlyniad adweithiol. Mae’n golygu bod eich canlyniad yn aneglur. Bydd eich bydwraig yn trafod pa un o’r profion gwaed sy’n aneglur.

Rydyn ni’n gwybod y gallai’r canlyniad yma wneud i chi bryderu.

Nod y daflen yma yw rhoi rhesymau i chi dros gael canlyniad aneglur a dweud pa brofion eraill y byddwn yn eu cynnig i chi er mwyn cadarnhau nad oes haint arnoch.

Beth mae canlyniad y prawf gwaed wedi’i ddangos?

Mae’ch prawf gwaed cychwynnol wedi rhoi canlyniad adweithiol (aneglur).

Nid yw’r canlyniad yma’n golygu bod haint arnoch chi.

Pam mae prawf gwaed yn rhoi canlyniad aneglur?

Mae pob prawf mewn labordy’n gallu rhoi canlyniad aneglur.

Adwaith gwan i’r prawf gwaed sydd fel arfer wedi achosi’r canlyniad yma.

Mae nifer o resymau pam y gallai’r prawf gwaed fod wedi rhoi canlyniad aneglur i chi, er nad oes haint arnoch efallai.

  • Efallai mai’r achos syml yw salwch ysgafn fel annwyd.
  • Mae’n gallu digwydd hefyd os oedd y sampl o waed yn rhy gynnes neu’n rhy oer yn ystod y broses o gludo’r sampl i’r labordy.

Yn aml iawn nid oes rheswm amlwg dros gael canlyniad aneglur. 

Mwy o brofion yn ystod eich beichiogrwydd

Byddwn yn cynghori y dylech gael prawf gwaed arall i gadarnhau nad oes haint arnoch. Bydd yr ail brawf gwaed yn cadarnhau fel arfer nad oes haint yno.  Mae’n bwysig ein bod yn gwneud yr ail brawf gwaed er mwyn i ni roi canlyniad pendant i chi.

Byddwch chi fel arfer yn cael cais i roi ail sampl o waed yn ystod un o’ch apwyntiadau nesaf yn y clinig cyn-geni.  Efallai bydd y fydwraig yn gofyn rhai cwestiynau i chi a fydd yn eich helpu i benderfynu gyda’ch gilydd ar yr adeg orau i dynnu’r ail sampl o waed.  Ambell waith bydd angen tynnu mwy nag un sampl arall o waed cyn gallu rhoi canlyniad pendant i chi.

Bydd eich bydwraig yn gallu dweud wrthych sut y gallwch chi gael canlyniadau’r prawf (neu’r profion) gwaed nesaf a’r adeg bydd y canlyniadau ar gael. Bydd y fydwraig hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych.

Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda’ch bydwraig unrhyw bryderon sydd gennych ynglŷn â heintiau. Bydd eich bydwraig yn gallu eich helpu i wneud yn siŵr eich bod chi a’ch babi’n cael y gofal gorau sydd ar gael.

Y camau nesaf