Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n feichiog a bod gennych ganlyniad prawf positif ar gyfer siffilis

 


 

Cynnwys

― Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu
Beth yw siffilis?
― Sut ydw i'n siffilis positif?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Triniaeth i chi
― Sut bydd cael siffilis yn effeithio ar fy meichiogrwydd a rhoi genedigaeth?
― Sut bydd cael siffilis yn effeithio ar fy mabi?
― A fydd angen gwrthfiotigau ar fy mabi?
― Pwy sydd angen gwybod bod gen i siffilis?
― Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

 

Mae'r wybodaeth hon am:

•    siffilis a bod yn feichiog; 
•    sut mae bod â siffilis yn gallu effeithio ar eich babi; a'r
•    driniaeth y gallwch ei chael pan fyddwch yn feichiog.

 

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu

Nid yw canlyniad positif eich prawf gwaed yn golygu’n bendant bod gennych siffilis. Nid yw canlyniadau’r prawf sgrinio am siffilis yn hawdd eu deall bob tro. Mae angen i arbenigwr edrych ar y canlyniadau a gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi'n hun a heintiau blaenorol. Bydd canlyniadau’r prawf sgrinio’n bositif weithiau am eich bod wedi cael siffilis yn y gorffennol ac wedi cael triniaeth ar ei gyfer. Mae clefydau eraill, llai difrifol hefyd yn gallu rhoi canlyniad positif i’r prawf.

 

Beth yw siffilis?

Mae siffilis yn haint bacterol difrifol. Os na chaiff ei drin, gall achosi problemau difrifol yn hwyr yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys niwed i’r ymennydd a phroblemau ar y galon. Efallai eich bod wedi bod yn sâl gyda siffilis am gyfnod byr yn unig pan gawsoch siffilis (hynny yw, pan gafodd y feirws ei drosglwyddo i chi) neu efallai nad ydych wedi cael unrhyw symptomau. Mae’n bosibl trin heintiau siffilis yn llwyddiannus gyda gwrthfiotigau.

 

Sut ydw i'n siffilis positif?

Gall siffilis gael ei drosglwyddo os ydych yn cael rhyw heb gondom (rhyw heb gondom allanol wedi'i wisgo ar y pidyn neu gondom mewnol a wisgir yn y wain) â rhywun sydd â'r haint. Mae hyn yn cynnwys rhyw geneuol.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae angen i ni gadarnhau'r canlyniad drwy gymryd sampl gwaed arall gennych. Mae'n annhebygol iawn y bydd y canlyniad hwn yn wahanol. Byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn clinig iechyd rhywiol i gael archwiliad llawn o’ch iechyd ac asesiad i helpu'r clinig i wneud diagnosis. Os yw’r meddyg yn credu bod gennych haint siffilis, bydd yn penderfynu hefyd ar y ffordd orau o’i drin.  

Mae’n bwysig iawn bod siffilis yn cael ei drin yn effeithiol er mwyn lleihau’r posibilrwydd o weld yr haint yn trosglwyddo i’ch babi pan fyddwch yn feichiog. Os bydd yr haint yn trosglwyddo i’ch babi, gallai achosi camesgoriad, marwenedigaeth neu annormaleddau yn eich babi.

Bydd eich arbenigwr iechyd rhywiol a'ch bydwraig yn gallu eich helpu i gynllunio'ch gofal, trafod eich dewisiadau a darparu cymorth.

 

Triniaeth i chi

Os oes gennych siffilis byddwch yn cael gwrthfiotigau. Ar ôl cael y gwrthfiotigau, byddwch yn cael cynnig profion gwaed pellach i wirio a yw’r haint wedi clirio’n gyfan gwbl.

Os na fyddwch yn gorffen y driniaeth, mae’n debygol iawn y byddwch yn trosglwyddo’r haint siffilis i’ch babi yn ystod beichiogrwydd. Gallai hyn fod yn beryglus iawn i'ch babi. Gallai eich babi farw cyn y geni neu fod â nifer o gyflyrau iechyd difrifol.

Unwaith y bydd siffilis wedi cael ei drin yn llwyddiannus, ni fydd yn dod yn ôl oni bai eich bod yn cael cyswllt rhywiol â rhywun â syffilis. 

 

Sut bydd cael siffilis yn effeithio ar fy meichiogrwydd a rhoi genedigaeth?

Os byddwch yn cael eich trin, ni fydd bod â siffilis yn effeithio ar weddill eich beichiogrwydd, eich dewisiadau o ran rhoi genedigaeth a bwydo eich babi.

 

Sut bydd cael siffilis yn effeithio ar fy mabi?

Os byddwch yn dechrau triniaeth gwrthfiotig cyn gynted â phosib yn eich beichiogrwydd, mae’n llai tebygol y bydd gan eich babi siffilis. Os byddwch yn cael diagnosis o’r haint yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd, efallai y bydd gan eich babi’r cyflwr. Bydd paediatregydd yn archwilio’ch babi’n fuan ar ôl y geni. Bydd angen nifer o brofion gwaed ar y babi i weld a oes siffilis arno ac a oes angen iddo gael gwrthfiotigau.

 

A fydd angen gwrthfiotigau ar fy mabi?

Efallai y bydd angen gwrthfiotigau ar eich babi ar ôl y geni, yn enwedig os cawsoch wrthfiotigau yn hwyr yn eich beichiogrwydd, oherwydd gall fod posibilrwydd o hyd fod gan eich babi siffilis.

 

Pwy sydd angen gwybod bod gen i siffilis?

Er mwyn i chi a'ch babi gael y gofal gorau, mae'n angenrheidiol derbyn gofal gan nifer o arbenigwyr - er enghraifft, y tîm iechyd rhywiol, obstetregydd (meddyg ysbyty) a phaediatregydd (meddyg babi a phlentyn).

Gallwch ddweud wrth yr arbenigwr hefyd p’un a ydych yn fodlon i’ch meddyg teulu gael gwybod bod gennych siffilis.Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd

Efallai y byddwch am ofyn i'ch tîm iechyd rhywiol sut i esbonio eich canlyniadau profion positif i'ch partner. Os nad yw’ch partner yn gwybod a oes ganddo siffilis, dylech ddefnyddio condomau er mwyn osgoi trosglwyddo’r feirws i’ch partner. Dylai’ch partner ystyried mynd i gael prawf am siffilis.

 

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am siffilis:

  • oddi wrth bydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo ar sgrinio cyn-geni, neu gan eich meddyg yn yr ysbyty (yr obstetregydd);
  • o glinig iechyd rhywiol agosaf y GIG – gallwch chi ffonio’ch ysbyty lleol a gofyn am y clinig iechyd rhywiol
  • o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru - www.shwales.online/index.html