Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1 - Cyflwyniad i brofion sgrinio cyn geni

 

Argraffwch y dudalen hon

 

Eich dewisiadau yn ystod beichiogrwydd

Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth bwysig am sgrinio a phrofion cyn geni. Bydd y wybodaeth yn y llyfryn hwn yn eich helpu i benderfynu a ydych am gael rhai, neu bob un, o’r profion ai peidio. Byddwch yn cael y cyfle i siarad â’ch bydwraig am y profion.

Mae’r GIG yn cadw canlyniadau’r holl brofion yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai yn amrywio o ran faint o bobl sy’n cael gweld eich canlyniadau profion. Bydd eich bydwraig yn gallu esbonio’r trefniadau lleol a fydd yn gymwys i chi.

Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael fan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.

 

Beth yw profion sgrinio?

Gall profion sgrinio helpu i ganfod rhai o’r cyflyrau sydd gennych chi neu’ch babi. Maent yn dangos pa siawns sydd bod y cyflwr gennych chi neu’r babi.

Nid ydynt yn dangos yn sicr a oes gennych chi neu’r babi y cyflwr a gaiff ei sgrinio.

Mae’r profion a gynigir yn cynnwys profion gwaed a sganiau uwchsain.

Weithiau, gall y prawf gwaed neu’r sgan uwchsain roi canlyniad aneglur ac mae’n bosibl y bydd angen rhagor o brofion.

Os yw canlyniad prawf sgrinio’n dangos ei bod yn fwy tebygol eich bod chi, neu’ch babi, â chyflwr penodol, efallai y cewch gynnig prawf sgrinio arall neu brawf mewnwthiol, er enghraifft amniosentesis. Mae profion mewnwthiol yn rhoi canlyniadau mwy sicr, ond mae siawns fach y gallant achosi camesgoriad. Am y rheswm hwn, dim ond pan fo siawns uwch o gael cyflwr y cynigir y profion hyn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am brofion mewnwthiol yn adran 7 o’r llyfryn hwn.

Gall profion sgrinio fethu canfod y cyflwr y maent yn sgrinio amdano. Gall y fydwraig ddweud wrthych pa mor aml y gall hyn ddigwydd gyda’r profion.
 

Pa brofion sydd ar gael?

Caiff y profion sgrinio canlynol eu cynnig i chi.
 

Fel arfer ar ôl 11 i 14 wythnos

  • Sgan uwchsain i weld:
  •  ers faint o wythnosau rydych wedi bod yn feichiog
  •  a yw calon eich babi yn curo, ac
  •  a ydych yn cael mwy nag un babi.
     

Yn gynnar yn ystod beichiogrwydd, fel arfer cyn 14 wythnos

Cewch gynnig profion gwaed i ganfod:

  • heintiau a allai eich niweidio chi a’ch babi (y rhain yw HIV, hepatitis B a siffilis)
  • eich grŵp gwaed a’ch grŵp Rhesws D, ac a oes gwrthgyrff yn eich gwaed, ac
  • rhai anhwylderau gwaed a etifeddir, fel clefyd y crymangelloedd a thalasaemia.

Gellir cael yr holl brofion hyn ar yr un pryd. Gallwch ddewis pa brofion a gynhelir. Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gellir cynnal y profion.

Byddwch yn cael cynnig y canlynol hefyd

  • profion ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau.

Gallwch gael prawf i gael gwybod y tebygolrwydd y byddwch yn cael babi â syndrom Down a’r tebygolrwydd y byddwch yn cael babi â syndrom Edwards neu syndrom Patau. Yn aml, gellir cynnal y prawf fel rhan o’r sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a gynigir i chi pan fyddwch rhwng 11 a 14 wythnos yn feichiog. Byddai angen i chi gael prawf gwaed ar yr un diwrnod hefyd.

Os ewch i’r apwyntiad sgan ac rydych wedi bod yn feichiog ers dros 14 wythnos, gallwch gael prawf gwaed i gael gwybod y tebygolrwydd y byddwch yn cael babi â syndrom Down. Fel arfer, cynhelir hwn ar ôl rhwng 15 a 18 wythnos o feichiogrwydd.
 

Ar ôl 18 i 20 wythnos

Gallwch gael sgan anomaledd y ffetws i weld y ffordd y mae eich babi’n datblygu.


Penderfynu a ydych am gael y profion

Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.

Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.

Mae’r adrannau yn y llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth am bob un o’r profion.
 

Ble fydd y profion yn cael eu cynnal?

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gallwch gael y profion.
 

Canlyniadau

Sut y byddaf yn cael canlyniadau fy mhrofion sgrinio?

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau’ch profion.
 

A fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?

Mae eich rhif GIG yn unigryw i chi ac mae’r rhif hwn yn eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y GIG. Os oes gennych gopi o’ch rhif GIG, sicrhewch fod y rhif ar gael pan fyddwch yn gweld y fydwraig am y tro cyntaf neu’r tro cyntaf y byddwch yn mynd i’r ysbyty ar gyfer eich gofal mamolaeth.

Cofiwch 

  • Chi sy’n dewis pa brofion rydych am eu cael. 
  • Ni chaiff prawf ei gynnal oni bai eich bod yn cytuno.
  • Ni chaiff nodyn atgoffa ei anfon atoch os na fyddwch yn dod am brawf.
     

Os byddwch yn newid eich meddwl

Gallwch newid eich meddwl am eich dewisiadau. Os penderfynwch gael prawf ac yna newid eich meddwl cyn ei gael, cofiwch ddweud wrth eich bydwraig fel y gall wneud nodyn yn eich cofnodion mamolaeth.