Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hon are eich cyfer chi os ydych chi'n feichiog a bod gennych ganlyniad prawf positif ar gyfer hepatitis B

 

 

Cynnwys

― Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?
Beth yw hepatitis B?
― Sut ydw i'n hepatitis B positif?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa driniaeth sydd ar gael i fy mabi?
― Sut gallaf aros yn iach er bod hepatitis B arnaf i?
― Pwy sydd angen gwybod fy mod i’n hepatitis B-positif?
― Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

 

 Yma fe welwch wybodaeth am:

  • fod yn hepatitis B-positif; a
  • ffyrdd y gallwch rwystro hepatitis B rhag cael ei drosglwyddo i'ch babi.

 

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu?

Mae canlyniad eich prawf gwaed yn golygu eich bod wedi cael eich heintio â'r feirws hepatitis B ar ryw adeg (hynny yw, cafodd y feirws ei drosglwyddo i chi) a'ch bod bellach yn gludydd y feirws.

Mae'n annhebygol y bydd eich babi’n dal y feirws yn ystod eich beichiogrwydd, ond mae siawns uchel y gallech drosglwyddo’r feirws i’ch babi yn ystod y geni.

 

Beth yw hepatitis B?

Mae hepatitis B yn feirws sy’n ymosod ar yr afu (iau). Nid yw llawer o’r bobl sy’n cludo hepatitis B yn cael unrhyw symptomau ac efallai na fyddant yn gwybod bod ganddynt y feirws nes iddynt gael prawf. Ni fydd rhai pobl sydd â'r feirws hwn byth yn cael gwared arno o’u corff er eu bod nhw’n ymddangos yn iach. Hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau, gallwch drosglwyddo’r feirws i bobl eraill o hyd.

 

Sut ydw i'n hepatitis B positif?

Gellir trosglwyddo hepatitis B yn y ffyrdd canlynol:

  • Mam sydd â hepatitis B, yn trosglwyddo’r haint i’w babi wrth roi genedigaeth.
  • Cael rhyw heb gondom (rhyw heb gondom allanol wedi'i wisgo ar y pidyn neu gondom mewnol wedi'i wisgo y tu mewn i'r wain) gyda rhywun sydd â hepatitis B.
  • Cael eich crafu gan nodwyddau sydd wedi cael eu defnyddio ac eitemau miniog eraill a allai fod â gwaed arnynt (a elwir weithiau yn ‘anaf nodwydd’).

Nid yw’n bosibl i chi drosglwyddo’r feirws i bobl eraill drwy gysylltiadau cymdeithasol arferol fel rhannu lleiniau, rhannu cyllyll a ffyrc, bod yng nghwmni eich ffrindiau a’ch teulu, ac wrth fwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf? 

Mae angen i ni gadarnhau'r canlyniad hwn drwy gymryd sampl gwaed arall gennych.  Mae'n annhebygol iawn y bydd y canlyniad hwn yn wahanol.  Ar yr un pryd, byddwn yn gwneud prawf gwaed arall, a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni am unrhyw driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi a'ch babi.  Byddwn yn anfon canlyniadau'r prawf hwn at yr arbenigwr cyn i chi gael apwyntiad. 

Bydd y tîm arbenigol yn rhoi cyngor i chi am atal haint yn eich babi a bydd yn cynnal profion i weld a oes angen triniaeth arnoch chi'ch hun. Mae hepatitis B yn gallu effeithio ar yr afu ac mae angen triniaeth ar rai pobl i atal niwed i'r afu.

 

Pa driniaeth sydd ar gael i fy mabi?

Mae cwrs diogel ac effeithiol o frechiadau ar gael i amddiffyn eich babi yn erbyn y feirws. Gall y brechlynnau hyn a roddir i'ch babi ei amddiffyn yn erbyn y feirws ac amddiffyn yn erbyn datblygu problemau gyda'r afu. Os bydd canlyniad eich prawf gwaed yn dangos bod y feirws hepatitis B sydd arnoch yn heintus iawn, byddwn yn cynnig pigiad arall i’ch babi ar yr un pryd i’w amddiffyn yn well yn erbyn y feirws.
 

Os na fydd eich babi'n cael triniaeth mae siawns 90% (9 mewn 10) y bydd yn dal y feirws, yn cario hepatitis B am oes ac mewn perygl o ddatblygu problemau difrifol fel niwed i'r afu yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae pob babi’n cael cynnig amddiffyniad yn erbyn hepatitis B fel rhan o'r brechiadau arferol i fabanod. Bydd angen chwe brechiad ar fabanod pob mam sy’n hepatitis B positif er mwyn cael yr amddiffyniad gorau.

  • Dylai’r babi gael y brechiad cyntaf o fewn 24 awr i’r geni.

Bydd angen pum brechiad arall ar eich babi. Mae’r rhain yn cael eu rhoi pan mae’ch babi’n:

  • fis oed
  • yn ddeufis oed; yn dri mis oed, yn bedwar mis oed (fel rhan o’r brechiadau arferol i fabanod); a
  • rhwng 12 ac 13 mis oed.

Mae’n bwysig iawn fod eich babi’n cael y cwrs llawn o frechiadau.

Ar ôl i’ch babi gwblhau’r cwrs o frechiadau, bydd yn cael prawf gwaed i sicrhau nad oes ganddo hepatitis B.

 

Sut gallaf aros yn iach gyda hepatitis B?

Gall y pethau syml sy’n dilyn eich helpu i aros yn iach:

●    Peidiwch ag yfed alcohol – gall niweidio'ch afu.

●    Dywedwch wrth eich meddyg eich bod yn cludo hepatitis B, a holwch am unrhyw driniaeth neu brofion a allai helpu.

●    Holwch y meddyg cyn cymryd unrhyw foddion, hyd yn oed meddyginiaethau llysieuol neu rai y gallwch eu prynu heb bresgripsiwn.

●    Peidiwch byth â chwistrellu cyffuriau. Gallai hynny roi dau fath arall o haint hepatitis (hepatitis C a D) i chi sydd hefyd yn gallu niweidio eich afu. Cysylltwch â chanolfan trin cyffuriau os oes angen help arnoch i roi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau.

 

Pwy sydd angen gwybod fy mod i’n hepatitis B-positif?

Er mwyn i chi a'ch babi gael y gofal gorau, mae'n angenrheidiol derbyn gofal gan nifer o arbenigwyr - er enghraifft, y tîm arbenigol hepatitis B, obstetregydd (meddyg ysbyty) a phaediatregydd (meddyg babi a phlentyn).

Bydd eich bydwraig yn gofyn i chi a allant rannu gwybodaeth amdanoch â'r arbenigwyr hyn cyn i'r arbenigwyr ddod yn rhan o'ch gofal.

Efallai y byddwch am ofyn i'ch tîm arbenigol sut i esbonio canlyniadau eich profion positif i'ch partner. Os nad yw eich partner yn gwybod a oes ganddo hepatitis B, dylech ddefnyddio condomau i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i'ch partner. Dylai eich partner ystyried cael prawf am hepatitis B. Gall fynd i'w feddygfa neu glinig iechyd rhywiol a gofyn am brawf hepatitis B.

 

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hepatitis B a phrofion cyn geni gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo ar sgrinio cyn geni, neu gan y meddyg yn yr ysbyty (yr obstetregydd).

Gallwch hefyd gysylltu â Ymddiriedolaeth Afu Prydain yn:

Ymddiriedolaeth Afu Prydain

Ffôn: 0800 6527330 (10am i 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Gwefan: www.britishlivertrust.org.uk