Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hom i chi os ydych wedi cael cynnig mwy o brofion ar gyfer cyflyrau cromosomaidd posibl

 

Mae’n cynnwys gwybodaeth am y llwybr newydd i fenywod sy’n disgwyl gefeilliaid ac sy’n cael cynnig NIPT yn dilyn prawf sgrinio cyfunol siawns uwch.

 

Rydych wedi cael y wybodaeth hon am fod eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn amau bod siawns uwch y gallai fod gan eich babi gyflwr cromosomaidd. Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys yr adrannau canlynol.


Cyhoeddwyd: Rhagfyr 2022, Fersiwn 5

Ni fydd pob adran yn y llyfryn hwn yn berthnasol i chi. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd
proffesiynol wedi trafod yr adrannau sy’n berthnasol i chi a bydd hyn yn dibynnu ar:
• pam mae’n amau y gallai fod siawns uwch bod gan eich babi gyflwr cromosomaidd
• ym mha wythnos o’ch beichiogrwydd ydych ch

Os ydych chi, neu dad eich babi, yn cario newid cromosomaidd, neu os ydych wedi cael babi yn y gorffennol â chyflwr cromosomaidd, dylech ddarllen adrannau 1, 5, 8, 9, 10, 11, 12 ac 16 a bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn dweud wrthych os bydd unrhyw adrannau eraill yn berthnasol.

Os oes siawns uwch bod gan eich babi newid cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd yn y sgan dyddio yn ystod beichiogrwydd cynnar, dylech ddarllen adrannau 1, 2, 3, 4, 6, 9, 10, 11, 14 ac 16 a bydd eich obstetregydd yn dweud wrthych os bydd unrhyw adrannau eraill yn berthnasol.

Os ydych wedi cael canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio cyfunol neu bedwarplyg, dylech ddarllen adrannau 1, 2, 3, 4, 7, 8, 910, 11 ac 16 a bydd eich bydwraig yn dweud wrthych os bydd unrhyw adrannau eraill yn berthnasol.

Os ydych wedi cael canlyniad siawns uwch yn y prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT), dylech ddarllen adrannau 1, 2, 3, 4, 10, 11 ac 16 a bydd eich bydwraig yn dweud wrthych os bydd unrhyw adrannau eraill yn berthnasol.

Os oes siawns uwch y bydd gan eich babi newid cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd ar y sgan anomaledd, dylech ddarllen adrannau 1, 10, 11, 14, 15 ac 16 a bydd eich obstetrydd yn dweud wrthych os bydd unrhyw adrannau eraill yn berthnasol

Cynnwys
 
― Adran 1 - Beth yw cromosomau a beth sy’n achosi newidiadau cromosomaidd mewn babanod?
Adran 2 - Beth yw syndrom Down a byw gyda syndrom Down?
― Adran 3 - Beth yw syndrom Edwards a byw gyda syndrom Edwards?
― Adran 4 - Beth yw syndrom Patau a byw gyda syndrom Patau?
― Adran 5 Beth sy’n digwydd os ydw i, neu dad y babi, yn cario newid cromosomaidd neu os ydw i wedi cael babi yn y gorffennol sydd â chyflwr cromosomaidd?
― Adran 6 - Beth sy’n digwydd os bydd siawns uwch bod gan fy mabi newid cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar?
― Adran 7 - Beth mae canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio cyfunol neu bedwarplyg yn ei olygu?
― Adran 8 - Beth yw prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT)?
― Adran 9 - Beth yw prawf samplu filws corionig (CVS)?
― Adran 10 - Beth yw amniosentesis?

 

 

 

Adran 1 - Beth yw cromosoma a beth sy'n achosi newidiadau cromosomaidd mewn babanod?

Mae pob cell yn cynnwys 23 pâr o gromosomau fel arfer. Mae’r rhieni yn cyfrannu un cromosom o’r sberm a’r wy i bob pâr o gromosomau yn y babi.

  • Weithiau mae newidiadau’n digwydd ar hap yn y sberm neu’r wy, sy’n arwain at gromosom ychwanegol ym mhob un o gelloedd y babi neu yn rhai ohonynt. Mae’r rhan fwyaf o gyflyrau cromosomaidd mewn babanod yn cael eu hachosi fel hyn. Nid yw unrhyw beth yr ydych chi neu dad y babi wedi’i wneud neu heb ei wneud yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth i’r math hwn o gyflwr.
  •  Weithiau mae’r newidiadau’n gallu digwydd wrth i un cromosom ddatgysylltu a chysylltu â chromosom arall. Mae’r mathau hyn o newidiadau yn aml yn cael eu galw’n drawsleoliad, ac mewn syndrom Down, er enghraifft, maen nhw’n digwydd mewn tua 1 mewn 25 (4%) o achosion.
  • Weithiau, mewn tua 1 mewn 100 achos (1%) mae rhai o’r celloedd yn y corff yn cael eu heffeithio gan y newidiadau ond nid eraill. Mae hyn yn dueddol o olygu bod effaith newidiadau cromosomaidd yn llai difrifol. Yr enw ar hyn yw newid cromosomaidd mosäig.

Y math mwyaf cyffredin o newid cromosomaidd yw syndrom Down. Mae hyn yn cael ei achosi gan gopi ychwanegol o gromosom 21 mewn rhai o’r celloedd neu’r holl gelloedd. Mae copi ychwanegol o gromosom 18 yn achosi syndrom Edwards. Mae copi ychwanegol o gromosom 13 yn achosi syndrom Patau. Mae’r llun isod yn dangos y cromosomau o gelloedd babi o dan ficrosgop. Mae sgwâr o amgylch y tri chopi o gromosom 21 sy’n achosi syndrom Down − fe welwch fod pob un arall mewn parau.

Mae yna amrywiaeth eang o newidiadau posibl i’r cromosomau sy’n gallu effeithio ar fabanod mewn gwahanol ffyrdd.

Os yw’r fydwraig neu’r obstetregydd yn amau bod gan eich babi unrhyw newidiadau cromosomaidd eraill, byddant yn trafod y cyflyrau hynny gyda chi.

 

Adran 2 - Beth yw syndrom Down a byw gyda syndrom Down?

Beth yw syndrom Down?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 21 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Down. Mae gan unigolyn â syndrom Down 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Down yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Down. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Bydd gan bob unigolyn â syndrom Down anabledd dysgu. Mae hyn yn golygu y gall eu datblygiad fod yn araf ac y byddant yn cymryd mwy o amser i ddysgu pethau newydd. Y dyddiau hyn mae gwell dealltwriaeth o sut mae plant â syndrom Down yn dysgu, ac mae help ar gael mewn lleoliadau addysg. Bydd tua 8 mewn 10 (80%) o blant yn mynd i ysgolion cynradd prif ffrwd, er bod unigolion yn amrywio’n sylweddol o ran eu datblygiad a bydd ganddynt anghenion iechyd a chymorth gwahanol. Ni fydd y profion cyn geni yn gallu dweud wrthych beth fydd anghenion iechyd a chymorth eich babi.

Gallwch wylio rhai straeon teuluol am fyw gyda syndrom Down yn: icc.gig.cymru/sgrinio-cyn-geni

Mae sefydliadau cymorth ar gael i fenywod beichiog ac i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down. Mae’r rhain yn cynnwys Cymdeithas Syndrom Down (DSA). Llinell gymorth 0333 12 12 300. Gwefan: www.downs-syndrome.org.uk

Plant ac Oedolion â syndrom Down

Yng Nghymru mae 9 mewn 10 (90%) o blant â syndrom Down yn byw heibio i’w pen-blwydd yn 5 oed. Gyda babanod sydd heb gyflyrau iechyd difrifol mae’r cyfraddau goroesi yn debyg i gyfraddau goroesi plant eraill a bydd y rhan fwyaf o bobl â syndrom Down yn byw tan eu 60au.

Mae’r rhan fwyaf o blant ac oedolion sydd â syndrom Down yn byw bywydau iach a bodlon ac maent yn rhan o’u cymuned. Mae’r rhan fwyaf yn dweud eu bod yn mwynhau eu bywydau a’u perthnasoedd. Mae llawer o oedolion yn gallu gweithio a byw yn eu llety eu hunain, gyda chymorth.

Mae pobl sy’n cael eu geni â syndrom Down yn fwy tebygol na’r rhan fwyaf o bobl o gael rhai cyflyrau meddygol.

  • Yng Nghymru bydd gan tua 6 mewn 10 (60%) o blant â syndrom Down gyflwr gyda’r galon, a bydd angen llawdriniaeth ar 1 mewn 3 (30%).
  • Bydd gan y rhan fwyaf o blant â syndrom down rywfaint o anhawster gyda golwg y bydd angen ei fonitro neu ei drin. Mae anhawster mwy difrifol gyda golwg yn llai cyffredin, er enghraifft, mae 1 mewn 250 (0.4%) o blant â syndrom Down yn cael eu geni â chataractau.
  • Bydd gan 6 mewn 10 (60%) o blant â syndrom Down ryw fath o nam ar y clyw, sy’n gallu achosi heriau iaith a lleferydd.
  • Maent yn fwy tebygol o gael heintiau’r clustiau, y trwyn a’r gwddf.
  • Mae lewcemia yn fwy cyffredin ymhlith plant â syndrom Down ac ni fydd hyn yn achosi unrhyw heriau iechyd i’r rhan fwyaf. Bydd angen triniaeth ar gyfer lewcemia ar 1 mewn 200 (0.5%) o blant â syndrom Down. Ar ôl cael triniaeth bydd y rhan fwyaf o blant â lewcemia yn gwella ac ni fydd ganddynt broblemau iechyd cysylltiedig.

Bydd babanod a phlant â syndrom Down yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, a fydd yn ymwybodol bod ganddynt siawns uwch o gael y cyflyrau meddygol hyn a byddant yn cynnal profion i fonitro eu llesiant. Mae’n bosibl trin nifer o’r cyflyrau hyn yn effeithiol

 

Adran 3 - Beth yw syndrom Edwards a byw gyda syndrom Edwards?

Beth yw syndrom Edwards?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 18 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Edwards. Mae gan unigolyn â syndrom Edwards 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis yn cael ei wneud o syndrom Edwards cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Edwards.

Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Ni fydd profion cyn geni yn gallu dweud wrthych pa heriau penodol a allai fod gan eich babi.

Bydd y rhan fwyaf o fabanod â syndrom Edwards yn marw cyn iddynt gael eu geni neu’n fuan ar ôl cael eu geni. O’r babanod hynny sy’n byw, bydd tua 1 mewn 7 (13%) yn byw am fwy na blwyddyn.

Mae rhai babanod sy’n cael eu geni â mathau llai difrifol o syndrom Edwards (fel y rhai â newid cromosomaidd mosäig) yn gallu byw hyd at blentyndod cynnar ond anaml iawn y byddant yn byw i fod yn oedolion.

Gallwch wylio rhai straeon teuluol ar fyw gyda syndrom Edwards yn: icc.gig.cymru/sgrinio-cyn-geni

Bydd gan bob unigolyn â syndrom Edwards anabledd dysgu difrifol am oes.

Mae sefydliadau cymorth ar gael i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Edwards. Mae’r rhain yn cynnwys Support Organisaton for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT).

Gwefan: www.soft.org.uk

Bydd gan fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Edwards amrywiaeth bach o gyflyrau ond byddant yn aml yn gyflyrau difrifol

  •  Oedi sylweddol o ran eu datblygiad (pob babi)
  • Cyflyrau gyda’r galon (llawer o fabanod)
  • Anawsterau bwydo (llawer o fabanod)
  • Yn fregus yn feddygol, yn arbennig cyflyrau anadlol (y rhan fwyaf o fabanod, yn arbennig pan fyddant yn fach)
  • Gwefus a thaflod hollt (rhai babanod)
  • Debygol o gael cyflyrau fel heintiau’r llwybr wrinol (UTI)

Ar ben arall y raddfa, mae ymchwil yn dangos, er enghraifft:

  • bod babanod a phlant yn gwneud cynnydd, waeth pa mor araf
  • bod babanod a phlant hŷn yn gallu cyfathrebu rhywfaint
  • bod rhai yn gallu sefyll a cherdded gyda chymorth
  • bod rhieni’n dweud yn gyson bod gan eu babanod a’u plant ansawdd bywyd da, am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol.

Bydd babanod a phlant â syndrom Edwards yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, a fydd yn ymwybodol bod ganddynt siawns uwch o gael y cyflyrau meddygol a byddant yn cynnal profion i fonitro eu llesiant. Mae’n bosibl trin rhai o’r cyflyrau hyn yn effeithiol.

Mae plant sy’n cael eu geni â syndrom Edwards fel arfer yn datblygu ac yn dysgu’n fwy araf na phlant eraill. Bydd ganddynt amrywiaeth o heriau penodol. Bydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig.

Adran 4 - Beth yw syndrom Patau a byw gyda syndrom Patau?

Beth yw syndrom Patau?

Cyflwr genetig sy’n cael ei achosi gan gromosom 13 ychwanegol ym mhob cell neu mewn rhai celloedd yw syndrom Patau.

Mae gan unigolyn â syndrom Patau 47 cromosom yn hytrach na’r 46 arferol. Nid yw’n bosibl tynnu’r cromosom ychwanegol o’r celloedd hyd yn oed os bydd diagnosis o syndrom Patau yn cael ei wneud cyn i’r babi gael ei eni.

Mae gan bob menyw siawns o gael babi â syndrom Patau. Does dim yr ydych chi a thad y babi wedi’i wneud, neu ddim wedi’i wneud, yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r siawns hon.

Ni fydd profion cyn geni yn gallu dweud wrthych pa heriau penodol a allai fod gan eich babi.

Bydd tua 9 mewn 10 (90%) o fabanod â syndrom Patau yn marw cyn iddynt gael eu geni neu’n fuan ar ôl iddynt gael eu geni. O’r babanod hynny sy’n byw, bydd tua 1 mewn 8 (12%) yn byw am fwy na blwyddyn. Gall rhai babanod sy’n cael eu geni â mathau llai difrifol o syndrom Patau, fel y rhai â newid cromosomaidd mosäig, fyw y tu hwnt i flwyddyn a gallant fyw hyd nes eu bod yn oedolion, ond mae hyn yn brin.

Bydd gan bawb â syndrom Patau anableddau dysgu difrifol gydol eu hoes. Mae sefydliadau cymorth ar gael hefyd i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Patau.

Mae’r rhain yn cynnwys

Support Organisaton for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT).

Gwefan: www.soft.org.uk

Bydd gan fabanod sy’n cael eu geni â syndrom Patau amrywiaeth bach o gyflyrau ond byddant yn aml yn gyflyrau difrifol

  • Oedi sylweddol o ran eu datblygiad (pob babi)
  • Cyflyrau’r galon (llawer o fabanod)
  • Anawsterau bwydo (llawer o fabanod)
  • Yn fregus yn feddygol, yn arbennig cyflyrau anadlol (y rhan fwyaf o fabanod, yn arbennig pan fyddant yn fach) • Gwefus a thaflod hollt (rhai babanod)
  • Debygol o gael cyflyrau fel heintiau’r llwybr wrinol (UTI)

Ar ben arall y raddfa, mae ymchwil yn dangos, er enghraifft:

  • bod babanod a phlant yn gwneud cynnydd, waeth pa mor araf
  • bod babanod a phlant hŷn yn gallu cyfathrebu rhywfaint
  • bod rhai yn gallu sefyll a cherdded gyda chymorth
  • bod rhieni’n dweud yn gyson bod gan eu babanod a’u plant ansawdd bywyd da, am eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau teuluol.

Bydd babanod a phlant â syndrom Patau yn cael gofal gan dîm meddygol arbenigol, oherwydd bydd gan fabanod a phlant sydd â’r cyflwr hwn anghenion cymhleth.

Mae plant sy’n cael eu geni â syndrom Patau fel arfer yn datblygu ac yn dysgu’n fwy araf na phlant eraill. Bydd ganddynt amrywiaeth o heriau cymhleth.

Bydd angen iddynt fynd i ysgol arbennig.

Adran 5 - Beth sy’n digwydd os ydw i, neu dad y babi, yn cario newid cromosomaidd neu os ydw i wedi cael babi yn y gorffennol sydd â chyflwr cromosomaidd?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o newid cromosomaidd yr ydych chi neu dad y babi yn ei gario. Gallwn:

  • gynnig prawf gwaed i bartner yr unigolyn sy’n cario newid cromosomaidd i brofi a oes siawns bod gan eich babi’r newid cromosomaidd, neu
  • gynnig prawf samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis i chi i weld a oes gan eich babi’r newid cromosomaidd.

Os byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y ddau brawf hyn achosi camesgoriad.

Adran 6 - Beth sy’n digwydd os bydd siawns uwch bod gan fy mabi newid cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar?

Tryleuder y gwegil 3.5mm a throsodd

Tryleuder y gwegil yw’r casgliad bach o hylif yng nghefn gwddf y babi sy’n cael ei mesur gan y sonograffydd os bydd yn credu ei bod yn edrych yn fawr neu os ydych wedi gofyn am brawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau.

Ni fydd gan y rhan fwyaf o fabanod y mae tryleuder y gwegil yn mesur 3.5mm a throsodd unrhyw broblemau eraill. Fodd bynnag, mae’n llawer mwy tebygol y gallai fod gan y babanod hyn broblemau penodol, a bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi trafod y rhain gyda chi. Un o’r rhain yw bod y babi yn llawer mwy tebygol na’r rhan fwyaf o fabanod o fod â newid cromosomaidd.

Efallai eich bod wedi dewis cael prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau ac efallai fod yr obstetregydd wedi trafod canlyniad y prawf hwn gyda chi.

Efallai y byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi i weld a oes gan eich babi newid cromosomaidd. Os byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol bod gan y profion hyn risg fach o achosi camesgoriad.

Canfyddiadau eraill yn y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar – bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau’r sgan gyda chi ac yn dweud wrthych pa brofion y byddant yn eu cynnig. Byddant yn dweud wrthych pa adrannau o’r llyfryn hwn sy’n berthnasol i chi.

Adran 7 - Beth mae canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio cyfunol neu bedwarplyg yn ei olygu?

Os yw eich prawf wedi dangos bod gennych siawns uwch o gael babi â syndrom Down neu siawns uwch o gael babi â syndrom Edwards neu Patau (hynny yw, siawns o rhwng 1 mewn 2 ac 1 mewn 150), bydd eich bydwraig neu’ch obstetregydd wedi esbonio canlyniad eich prawf i chi yn fanwl, gan gynnwys eich siawns unigol chi. Cofiwch, po isaf yw’r rhif, yr uchaf yw’r siawns. Felly, er enghraifft, mae 1 mewn 80 yn siawns uwch o gael babi â syndrom Down o gymharu ag 1 mewn 140.

Mae rhwng dwy a thair mewn 100 (2% a 3%) o fenywod sydd wedi cael prawf sgrinio yn cael canlyniad sy’n dangos bod ganddynt siawns uwch o gael babi ag un o’r cyflyrau hyn.

Os ydych yn disgwyl gefeilliaid byddwch wedi cael trafodaeth fanwl gydag obstetregydd neu fydwraig cyn cael eich prawf cyfunol. Mae hyn oherwydd bod y penderfyniadau yn fwy cymhleth gan fod llawer o faterion i’w hystyried. Bydd y drafodaeth wedi cynnwys gwybodaeth am y math o efeilliaid rydych yn eu cael a beth allai hynny ei olygu o ran y siawns y bydd gan un neu’r ddau fabi y cyflyrau y sgriniwyd amdanynt.

Gan fod gennych ganlyniad siawns uwch, eich dewisiadau yw:

• dim rhagor o brofion

• NIPT, neu

• brofion mewnwthio

Dim rhagor o brofion

Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi neu eu babanod gyflwr cromosomaidd, a bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd.

Gallwch drafod a ydych eisiau cael prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT) neu brawf mewnwthiol.

Efallai y byddwch yn wynebu penderfyniadau anodd ar ôl prawf mewnwthiol ac mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r rheini ymlaen llaw. Os yw’r prawf mewnwthiol (amniosentesis neu CVS) yn dangos mai dim ond un babi sydd â’r cyflwr, gall y penderfyniad i barhau â’r beichiogrwydd ai peidio fod yn un anodd iawn. Gall dod â’r beichiogrwydd i ben ar gyfer y babi â’r cyflwr achosi i chi gamesgor y gefell arall hefyd. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi yn fanylach.

Adran 8 - Beth yw prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT)?

Byddwch yn cael cynnig y prawf sgrinio NIPT os ydych wedi cael canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio cyfunol neu bedwarplyg ac rydych yn cael un babi yn unig neu efeilliaid.

Mae NIPT yn brawf sgrinio pellach sy’n fwy cywir na’r prawf cyfunol neu bedwarplyg. Ni fydd yn rhoi canlyniad pendant. Mae’n brawf gwaed sy’n cael ei gymryd yn y ffordd arferol – bydd eich DNA (deunydd genetig) yn eich gwaed a bydd rhywfaint o DNA eich babi ynddo sy’n cael ei ryddhau o’r brych. Bydd y gwaed yn cael ei anfon i’r labordy ac yn cael ei sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau. Os oes mwy o DNA na’r disgwyl ar gyfer cromosomau 21, 18 neu 13 yn eich gwaed, gallai olygu bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Bydd y canlyniad yn dweud wrthych a oes siawns isel neu uchel bod gan eich babi un o’r cyflyrau. Ni fydd y prawf hwn yn rhoi canlyniad ar gyfer unrhyw gyflyrau eraill, na rhyw eich babi. Os byddwch yn dewis cymryd y prawf hwn mae’n cymryd tua phythefnos i gael canlyniad.

Y rheswm pam nad yw’r prawf hwn yn 100% gywir yw oherwydd ei fod yn profi’r DNA o’r brych ac, mewn achosion prin, nid yw hyn yn union yr un fath â DNA y babi. Gelwir hyn yn fosaigiaeth brych cyfyng.

Gellir cynnal y prawf hwn hyd at 20 wythnos o feichiogrwydd.

Ni fyddwch yn gallu cael yr NIPT:

• os bu’n feichiogrwydd gefeilliaid i ddechrau ac roedd un babi wedi marw yn ystod y beichiogrwydd, neu

• rydych wedi cael rhai cyflyrau meddygol, gan gynnwys os ydych wedi cael tiwmor, trawsblaniad neu drallwysiad gwaed yn ddiweddar.

Gall eich bydwraig drafod hyn gyda chi.

Beth mae’r canlyniadau yn ei olygu?

Gan fod NIPT yn brawf sgrinio, ni fydd yn rhoi canlyniad pendant i chi. Yn lle hynny, bydd yn rhoi:

• canlyniad siawns isel, neu

• ganlyniad siawns uchel.

Bydd NIPT yn rhoi canlyniad cywir i’r rhan fwyaf o fenywod sy’n dewis cael y prawf, ond gall fod canlyniadau positif anghywir a chanlyniadau negatif anghywir.

Efallai y bydd NIPT hefyd yn llai cywir mewn beichiogrwydd gefeilliaid.

Mae canlyniad positif anghywir yn golygu cael canlyniad siawns uchel pan nad oes gan y babi’r cyflwr.

Mae canlyniad negatif anghywir yn golygu cael canlyniad siawns isel pan fydd gan y babi’r cyflwr.

Canlyniadau siawns isel

Bydd y rhan fwyaf o fenywod sy’n cael NIPT yn cael canlyniad siawns isel ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Os byddwch yn cael canlyniad siawns isel, ni fyddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis). Mae’r canlyniad yn gywir ar gyfer y rhan fwyaf o fenywod.

Dylech drafod canlyniad unigol eich prawf cyfunol neu bedwarplyg gyda’ch gweithiwr iechyd proffesiynol cyn penderfynu ar brofion pellach.

Canlyniadau siawns uchel

Os ydych yn cael canlyniad NIPT siawns uchel ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, byddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol (samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis) neu gallwch ddewis peidio â chael rhagor o brofion.

• Bydd o leiaf 9 mewn 10 (90%) o fenywod sydd wedi cael canlyniad NIPT siawns uchel ar gyfer syndrom Down yn cario babi sydd â’r cyflwr.

Mae NIPT yn llai cywir wrth ddod o hyd i fabanod â syndrom Edwards neu syndrom Patau nag ydyw ar gyfer syndrom Down.

• Bydd tua 8 mewn 10 (80%) o fenywod sydd wedi cael canlyniad NIPT siawns uchel ar gyfer syndrom Edwards neu syndrom Patau yn cario babi sydd ag un o’r cyflyrau.

Dim canlyniad o NIPT

Ni fydd tua 0.3% (1 mewn 300) o’r profion yn rhoi canlyniad i chi, yn aml am nad oes digon o gelloedd y babi yn eich gwaed. Yn yr achos hwn byddwch yn cael cynnig prawf mewnwthiol i roi canlyniad i chi. Gall eich bydwraig drafod hyn gyda chi.

Adran 9 - Beth yw prawf samplu filws corionig (CVS)?

Gweithdrefn lle bydd obstetregydd yn tynnu darn bach o feinwe o’r brych yn ystod eich beichiogrwydd yw CVS. Mae’r celloedd yn y feinwe yn cael eu profi yn y labordy er mwyn edrych ar gromosomau eich babi. Fel arfer, gallwch gael prawf CVS rhwng wythnosau 11 ac 14 eich beichiogrwydd.

Mae cael CVS yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% o feichiogrwydd (tua 1 mewn 200). Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl CVS mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% o feichiogrwydd (1 mewn 100).

Mae camesgoriad yn fwyaf tebygol o ddigwydd hyd at dair wythnos ar ôl CVS. Nid oes neb yn gwybod pam mae hyn yn digwydd nac i bwy y bydd yn digwydd. Mae’n gallu digwydd p’un a oes gan eich babi newid cromosomaidd ai peidio. Mae prawf CVS yn cael ei wneud yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd, a dyna pryd mae camesgoriadau ychydig yn fwy cyffredin ymhlith pob menyw feichiog.

Oherwydd bod CVS yn brawf arbenigol, efallai na fydd yn bosibl i chi ei gael yn lleol. Yn lle hynny, efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn uned famolaeth arall.

Bydd eich bydwraig neu obstetregydd yn gallu esbonio’r prawf i chi. Chi sydd i benderfynu a ydych am gael y prawf hwn ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu cael y prawf CVS, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd yn cytuno i’r prawf cyn ei gynnal.

Paratoi ar gyfer CVS

• Gallwch gael brecwast neu ginio ysgafn cyn eich apwyntiad.

• Bydd angen i’ch pledren fod yn llawn ar gyfer y sgan y byddwch yn ei gael cyn y CVS.

• Efallai y bydd yn rhaid i chi wagio eich pledren ar gyfer y prawf CVS ei hun.

• Efallai y byddwch yn fwy cyfforddus yn gwisgo dillad llac.

• Gallwch ddod â’ch partner neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi yn ystod ac ar ôl y prawf, ond peidiwch â dod ag unrhyw blant gyda chi.

• Os yw’n bosibl, dylech drefnu i rywun eich gyrru adref.

Cael y prawf CVS

Mae’r prawf ei hun yn cymryd tua 20 munud a byddwch yn ei gael fel claf allanol, yn y clinig cyn geni fel arfer. Byddwch yn effro yn ystod y prawf, ac yn gorwedd i lawr.

Byddwch yn cael sgan uwchsain cyn y prawf CVS. Mae hyn er mwyn cadarnhau safle’r babi ac i ddod o hyd i’r lle gorau i gymryd y sampl o’r brych.

Bydd eich obstetregydd yn rhoi pigiad o anesthetig lleol i chi er mwyn rhewi croen eich abdomen. Yna bydd eich abdomen yn cael ei lanhau gyda hylif gwrthfiotig er mwyn lleihau’r risg o haint. Bydd yr obstetregydd yn rhoi nodwydd drwy eich croen a wal eich croth ac yna’n cymryd sampl fach o’r brych. Bydd yr obstetregydd yn gwylio’r sgan uwchsain er mwyn gwybod lle i roi’r nodwydd ac er mwyn osgoi mynd yn rhy agos at eich babi. Efallai y bydd y prawf hwn yn teimlo ychydig yn anghyfforddus.

Yna bydd yr obstetregydd neu’r fydwraig yn archwilio’r sampl o dan ficrosgop er mwyn gweld a oes digon o feinwe i gynnal y prawf. Os na fydd digon, bydd angen i’r obstetregydd gymryd sampl arall.

Gofynnir i chi hefyd roi sampl gwaed er mwyn i’r labordy fod yn siŵr bod y canlyniadau o’r sampl CVS yn ganlyniadau ar gyfer eich babi yn hytrach na chi. Weithiau ni fydd yn bosibl cynnal y prawf oherwydd safle’r babi. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu cynnal y prawf ar ddiwrnod arall.

Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?

Ar ôl y prawf dylech orffwys yn y clinig am hyd at 30 munud. Efallai y cewch boenau yn eich bol ar ôl y prawf, yn debyg i boenau misglwyf.

Os oes gennych grŵp gwaed Rhesws-negatif, byddwch yn cael cynnig pigiad anti-D ar ôl y prawf. Mae hyn er mwyn lleihau’r siawns o wrthgyrff yn datblygu yn eich gwaed, sy’n gallu digwydd os mai Rhesws-negatif yw grŵp gwaed eich babi

Efallai y bydd rhai obstetryddion yn eich cynghori i beidio gwneud gormod am ychydig ddyddiau ar ôl y prawf, ac osgoi cael rhyw, osgoi codi unrhyw beth trwm a pheidio â gwneud ymarfer corff egnïol. Ni fydd angen i chi aros yn eich gwely drwy’r amser.

Os cewch unrhyw boen neu deimlad anghyfforddus, gallwch gymryd y dos arferol o paracetamol.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn teimlo’n normal eto ar ôl dau ddiwrnod.

Beth y dylech gadw golwg amdano

• Poen difrifol, na allwch ei reoli drwy gymryd poenladdwyr ysgafn (fel paracetamol).

• Unrhyw waedu neu unrhyw redlif annymunol o’ch gwain.

• Unrhyw hylif sy’n gollwng o’ch gwain.

• Os byddwch yn teimlo’n sâl yn ddirybudd, gyda thymheredd uchel neu symptomau tebyg i’r ffliw.

Nid yw’r symptomau hyn bob tro’n golygu bod problem, ond mae’n bosibl y bydd angen gofal a sylw pellach arnoch. I gael cyngor, cysylltwch â’r canlynol:

• y clinig lle cawsoch y prawf CVS, neu

• eich bydwraig

Adran 10 - Beth yw amniosentesis?

Prawf lle bydd obstetregydd yn tynnu swm bach (tua 15 i 20 mililitr) o’r hylif amniotig o amgylch eich babi yn eich croth yw amniosentesis. Mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif hwn yn gallu cael eu profi yn y labordy er mwyn edrych ar y cromosomau. Fel arfer mae prawf amniosentesis yn cael ei wneud ar ôl 15 wythnos o feichiogrwydd.

Mae cael amniosentesis yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% o feichiogrwydd (tua 1 mewn 200). Mae’r risg o gamesgoriad ar ôl amniosentesis mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% o feichiogrwydd (1 mewn 100).

Mae camesgoriad yn fwyaf tebygol o ddigwydd hyd at dair wythnos ar ôl yr amniosentesis. Nid oes neb yn gwybod pam mae hyn yn digwydd nac i bwy y bydd yn digwydd. Mae’n gallu digwydd p’un a oes gan eich babi newid cromosomaidd ai peidio.

Oherwydd bod amniosentesis yn brawf arbenigol, efallai na fydd yn bosibl i chi ei gael yn lleol. Yn lle hynny, efallai y byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn uned famolaeth arall.

Os oes gennych haint fel HIV, hepatitis B neu hepatitis C, efallai y bydd angen gwybodaeth a chyngor pellach arnoch chi gan feddyg sy’n arbenigo mewn clefydau heintus cyn i chi benderfynu cael amniosentesis.

Bydd eich bydwraig neu obstetregydd yn gallu esbonio’r prawf i chi. Chi sydd i benderfynu a ydych am gael y prawf hwn ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu cael y prawf amniosentesis, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen ganiatâd yn cytuno i’r prawf hwn cyn ei gynnal.

Paratoi ar gyfer amniosentesis

• Gallwch gael brecwast neu ginio ysgafn cyn eich apwyntiad.

• Bydd angen i’ch pledren fod yn llawn ar gyfer y sgan y byddwch yn ei gael cyn yr amniosentesis.

• Efallai y bydd rhaid i chi wagio eich pledren ar gyfer y prawf amniosentesis ei hun.

• Efallai y byddwch yn fwy cyfforddus yn gwisgo dillad llac.

• Gallwch ddod â’ch partner neu ffrind gyda chi i’ch cefnogi yn ystod ac ar ôl y prawf, ond peidiwch â dod ag unrhyw blant gyda chi.

• Os yw’n bosibl, dylech drefnu i rywun eich gyrru adref.

Cael prawf amniosentesis

Mae’r prawf ei hun yn cymryd tua 10 munud a byddwch yn ei gael fel claf allanol, yn y clinig cyn geni fel arfer. Byddwch yn effro yn ystod y prawf, ac yn gorwedd i lawr.

Byddwch yn cael sgan uwchsain cyn yr amniosentesis. Mae hyn er mwyn cadarnhau safle’r babi ac i ddod o hyd i’r lle gorau i gymryd y sampl o’r hylif o du mewn eich croth. Bydd eich abdomen yn cael ei lanhau gyda hylif gwrthfiotig er mwyn lleihau’r risg o haint. Mae’r obstetregydd yn rhoi nodwydd drwy eich croen a wal eich croth ac yna’n cymryd sampl fach o’r hylif o amgylch eich babi. Bydd yr obstetregydd yn gwylio’r sgan uwchsain er mwyn gwybod lle i roi’r nodwydd ac er mwyn osgoi mynd yn rhy agos at eich babi. Efallai y bydd y prawf hwn yn teimlo ychydig yn anghyfforddus

Weithiau ni fydd yn bosibl cynnal y prawf oherwydd safle’r babi. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu cynnal y prawf ar ddiwrnod arall.

Mae siawns fach na fydd yr obstetregydd yn gallu casglu unrhyw hylif amniotig o amgylch eich babi. Mae hyn yn golygu na fydd yn bosibl gwneud y prawf. Efallai y bydd yr obstetregydd yn awgrymu y dylid gwneud y prawf ar ddiwrnod arall.

Byddant hefyd yn gofyn i chi am sampl gwaed er mwyn i’r labordy fod yn siŵr mai canlyniadau ar gyfer eich babi yw’r rhai maen nhw’n ei gael o’r amniosentisis ac nid canlyniadau ar eich cyfer chi.

Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?

Ar ôl y prawf dylech orffwys yn y clinig am hyd at 30 munud. Efallai y cewch boenau yn eich bol ar ôl y prawf, yn debyg i boenau misglwyf.

Os oes gennych grŵp gwaed Rhesws-negatif, byddwch yn cael cynnig pigiad anti-D ar ôl y prawf. Mae hyn er mwyn lleihau’r siawns o wrthgyrff yn datblygu yn eich gwaed, sy’n gallu digwydd os mai Rhesws-negatif yw grŵp gwaed eich babi.

Efallai y bydd rhai obstetryddion yn eich cynghori i beidio gwneud gormod am ychydig ddyddiau ar ôl y prawf, ac osgoi cael rhyw, osgoi codi unrhyw beth trwm a pheidio â gwneud ymarfer corff egnïol. Ni fydd angen i chi aros yn eich gwely drwy’r amser.

Os cewch unrhyw boen neu deimlad anghyfforddus, gallwch gymryd y dos arferol o paracetamol.

Bydd y rhan fwyaf o fenywod yn teimlo’n normal eto ar ôl dau ddiwrnod.

Beth y dylech gadw golwg amdano

• Poen difrifol, na allwch ei reoli drwy gymryd poenladdwyr ysgafn (fel paracetamol).

• Unrhyw waedu neu unrhyw redlif annymunol o’ch gwain. • Unrhyw hylif sy’n gollwng o’ch gwain.

• Os byddwch yn teimlo’n sâl yn ddirybudd, gyda thymheredd uchel neu symptomau tebyg i’r ffliw.

Nid yw’r symptomau hyn bob tro’n golygu bod problem, ond mae’n bosibl y bydd angen gofal a sylw pellach arnoch. I gael cyngor, cysylltwch â’r canlynol:

• y clinig lle cawsoch chi’r amniosentesis, neu

• eich bydwraig

Adran 11 - Beth yw prawf meintiol adwaith cadwynol fflworoleuedd-polymesarau (QF-PCR)?

Prawf QF-PCR ar sampl amniosentesis neu CVS ar ôl canlyniad siawns-uwch mewn profion cyfunol sgrinio pedwarplyg neu ganlyniad siawns uchel mewn prawf NIPT

Bydd y prawf QF-PCR yn chwilio am y tri chyflwr cromosom canlynol yn y babi.

• Syndrom Down

• Syndrom Edwards

• Syndrom Patau

Ni fydd yn dweud wrthych beth yw rhyw y babi

Prawf QF-PCR am reswm arall heblaw canlyniad siawns uwch/uchel

Os bydd eich prawf QF-PCR yn cael ei wneud am unrhyw reswm arall, bydd eich obstetregydd neu gynghorydd geneteg yn trafod y cyflyrau penodol y bydd y prawf yn rhoi canlyniadau i chi ar eu cyfer.

Canlyniad QF-PCR

Os ydych wedi cael prawf amniosentesis, bydd eich canlyniad QF-PCR ar gael o fewn tri diwrnod calendr fel arfer.

Ni fydd tua 1 mewn 25 (4%) o brofion amniosentesis yn gallu rhoi canlyniad o fewn y cyfnod hwn. Yn yr achosion hyn mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig yn cael eu tyfu yn y labordy. Bydd y canlyniad hwn ar gael ymhen 10 i 14 diwrnod calendr. Nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.

Os ydych wedi cael y prawf CVS mae’r canlyniad ar gael fel arfer o fewn 10 i 14 diwrnod calendr.

Bydd y person sy’n cymryd y sampl wedi gofyn i chi sut yr hoffech chi dderbyn eich canlyniadau.

Mewn tua phedwar neu bum prawf QF-PCR mewn 100 (4% neu 5%) efallai y bydd angen samplau gwaed gennych chi a thad y babi i’n helpu i gael canlyniad cliriach. Unwaith eto, nid yw hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y bydd problem gyda’ch babi.

Os yw’r prawf wedi dangos bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, bydd y labordy yn cynnal prawf arall o’r enw prawf caryoteip i weld a allai fod gan unrhyw fabanod eraill y gallech eu cael yn y dyfodol y cyflwr hwn.

Adran 12 - Beth yw prawf caryoteip?

Mae’r prawf labordy hwn yn cymryd mwy o amser na’r prawf QF-PCR ond bydd yn canfod mwy o newidiadau cromosomaidd. Nid yw’r prawf hwn yn cael ei gynnal ar gyfer canlyniadau sgrinio siawns uwch yn y prawf cyfunol neu bedwarplyg neu NIPT, oni bai bod gan eich babi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Bydd y labordy yn cynnal prawf caryoteip i weld a fydd hyn gan unrhyw fabanod eraill y gallech eu cael yn y dyfodol y cyflwr.

Er mwyn cynnal y prawf hwn, mae celloedd eich babi sy’n arnofio yn yr hylif amniotig neu o’r CVS yn cael eu tyfu yn y labordy (mae hyn yn cymryd tua 10 i 14 diwrnod calendr). Bydd staff y labordy yn archwilio’r celloedd o dan ficrosgop er mwyn chwilio am newidiadau yn nifer ac ymddangosiad cromosomau eich babi.

Ni fydd y prawf caryoteip yn canfod:

• newidiadau i enynnau unigol, fel ffeibrosis systig (mae pob cromosom yn cynnwys miloedd o enynnau)

• microddileadau (colli mân ddarnau o gromosom) neu,

• fân newidiadau eraill i gromosomau.

Canlyniadau’r prawf caryoteip

Mae’r canlyniadau hyn yn barod o fewn tua phythefnos fel arfer.

Weithiau mae’n cymryd mwy o amser i gwblhau’r profion hyn, a bydd angen i chi aros ychydig ddyddiau ychwanegol. (Nid yw hyn yn golygu bod mwy o siawns bod problem gyda’ch babi)

Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd y canlyniad caryoteip yn rhoi canlyniad nad yw’n glir. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.

Bydd y prawf caryoteip yn dangos rhyw eich babi. Os nad ydych eisiau gwybod beth yw rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu’ch obstetregydd.

 

Adran 13 - Beth yw prawf genyn unigol?

Anhwylderau genyn unigol

Newidiadau mewn genyn unigol sy’n achosi anhwylderau genyn unigol. Os oes hanes yn eich teulu o anhwylder wedi’i etifeddu sy’n golygu bod un genyn unigol yn newid (fel ffibrosis systig), efallai y byddwch yn cael cynnig prawf penodol – prawf genyn unigol – ar ei gyfer. Efallai eich bod wedi siarad â rhywun o’r gwasanaeth geneteg yn barod. Os nad ydych chi, gall eich bydwraig neu’ch obstetregydd eich cyfeirio at y gwasanaeth geneteg ar ôl cael gwybod am hanes yn eich teulu o anhwylder wedi’i etifeddu. Os bydd prawf genyn unigol yn cael ei wneud ar sampl hylif amniotig neu CVS, byddwch fel arfer yn cael cynnig prawf QF-PCR hefyd.

Canlyniadau prawf genyn unigol

Mae canlyniadau profion ar gyfer anhwylderau genyn unigol yn gallu cymryd gwahanol amseroedd. Bydd y tîm geneteg yn trafod gyda chi sut y byddwch yn cael canlyniadau profion genyn unigol.
 

Adran 14 - Beth yw prawf arae polymorffedd niwcleotid unigol (SNP)?

Dim ond pan mae newidiadau strwythurol penodol i’w gweld ar sgan uwchsain y bydd y prawf yma’n cael ei wneud

Mae prawf arae SNP yn brawf sy’n edrych ar y cromosomau yn y celloedd yn yr hylif amniotig neu sampl CVS. Mae’r prawf yn chwilio am newidiadau bach yn neunyddiau’r genynnau. Efallai fod newid yn y deunydd yn esbonio achos yr annormaleddau a oedd i’w gweld yn ystod sgan uwchsain.

Bydd y prawf arae SNP:

• yn methu dod o hyd i newidiadau mewn genynnau unigol, fel ffibrosis systig (mae miloedd o enynnau ym mhob cromosom);

• efallai’n nodi newid yn y cromosomau nad ydynt efallai’n gysylltiedig â’r canfyddiadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod y sgan uwchsain (efallai fod y newidiadau yma’n golygu goblygiadau i iechyd eich babi yn y dyfodol neu i iechyd aelodau eraill o’r teulu

• efallai’n dangos rhai newidiadau yn y cromosomau ac mae’n amhosib rhagweld beth fydd yr effaith ar eich babi.

Mae’r prawf hwn yn chwilio am newidiadau cromosomaidd yn fwy manwl na’r prawf QF-PCR neu’r prawf caryoteip.

Canlyniadau prawf arae SNP

Mae’r canlyniadau hyn fel arfer yn barod o fewn tua 14 diwrnod calendr.

Weithiau mae’n cymryd mwy o amser i gwblhau’r profion hyn (nid yw hyn yn golygu bod mwy o siawns y bydd problem gyda’ch babi).

Weithiau, mewn tua 1 prawf mewn 250 (0.4%), ni fyddwch yn cael canlyniad. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn cael cynnig prawf amniosentesis arall.

Mewn rhai achosion mae prawf arae SNP yn gallu rhoi canlyniad nad yw’n glir. Bydd eich obstetregydd yn trafod hyn gyda chi os bydd hyn yn digwydd.

Bydd y prawf arae SNP yn dangos rhyw eich babi. Os nad ydych eisiau gwybod beth yw rhyw eich babi, dywedwch wrth eich bydwraig neu’ch obstetregydd.

 

Adran 15 - Beth sy’n digwydd os bydd siawns uwch y bydd gan fy mabi newid cromosomaidd oherwydd rhywbeth a welwyd ar sgan anomaledd y ffetws?

Byddwch wedi cael gwybod bod rhywbeth a welwyd ar eich sgan anomaledd y ffetws sy’n golygu efallai fod gan eich babi siawns uwch o gael newid cromosomaidd. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau eich sgan gyda chi ac yn dweud wrthych pa brofion y byddant yn eu cynnig.

Efallai y byddwn yn cynnig amniosentesis i chi i weld a oes gan y babi newid cromosomaidd. Os byddwn yn cynnig prawf amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y prawf hwn achosi camesgoriad.

Os ydych wedi cael prawf CVS neu amniosentesis yn gynharach yn eich beichiogrwydd ar gyfer canlyniad siawns uwch mewn prawf sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, bydd y labordy yn gallu cynnal profion ychwanegol ar y sampl i chwilio am newidiadau cromosomaidd eraill.

 

Adran 16 - Beth yw fy opsiynau os oes gan fy mabi syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau neu newid cromosomaidd arall a geir ar brawf mewnwthiol?

Bydd newid cromosomaidd yn cael ei ganfod mewn rhai achosion. Byddwch yn cael gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i wneud penderfyniad am eich beichiogrwydd. Gallwch drafod y canlyniad gydag obstetregydd a bydwraig sy’n arbenigo mewn profion sgrinio cynenedigol. Byddwch hefyd yn gallu trafod y canlyniad gyda rhywun sy’n arbenigo mewn geneteg os bydd angen.

Mae canfod bod gan eich babi yn y groth newid cromosomaidd yn gallu achosi cymysgedd o emosiynau, ac mae penderfynu beth i’w wneud yn anodd. Mae yna arbenigwyr sy’n gallu rhoi gwybodaeth i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud. Mae’r rhain yn cynnwys ymgynghorwyr meddygaeth y ffetws, genetegwyr a phediatregwyr. Mae’r rhan fwyaf o fenywod eisiau ac angen rhywfaint o gymorth. Gallai hyn fod gan bartner, teulu neu ffrindiau neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch. Gall eich partner neu ffrind ddod i apwyntiadau ysbyty gyda chi os byddwch yn dymuno.

Mae sefydliadau cymorth ar gael hefyd i deuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Gallwch wylio rhai straeon teuluol ar fyw gyda naill ai syndrom Down neu syndrom Edwards yn: icc.gig.cymru/sgrinio-cyn-geni

Bydd rhai menywod eisiau paratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth gan wybod bod gan eu babi gyflwr cromosomaidd, ac efallai y bydd eraill yn penderfynu peidio â pharhau â’r beichiogrwydd. Os byddwch yn penderfynu parhau â’r beichiogrwydd, gall yr unigolyn sy’n gofalu amdanoch gytuno ar gynllun gyda chi ar gyfer gweddill eich beichiogrwydd ac ar ôl i’ch babi gael ei eni.

Mae’r rhain yn benderfyniadau anodd a byddwch yn cael amser a gwybodaeth i’ch helpu i wneud penderfyniad sy’n iawn i chi.

Beth bynnag fydd eich penderfyniad, bydd y bobl sy’n gofalu amdanoch yn parchu eich dymuniadau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y cyrff yma:

Antenatal Results and Choices (ARC)

Llinell gymorth: 0845 077 2290 neu 0207 713 7486 o ffôn symudol

E-bost: info@arc-uk.org

Gwefan: www.arc-uk.org

Cymdeithas Syndrom Down (DSA)

Ffôn: 0333 1212 300

E-bost: info@downs-syndrome.org.uk

Gwefan: www.downs-syndrome.org.uk

Support Organisation for Trisomy 13/18 (syndrom Patau a syndrom Edwards) (SOFT UK)

E-bost: enquiries@soft.org.uk

Gwefan: www.soft.org.uk