Neidio i'r prif gynnwy

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol

Yn y mwyafrif o achosion, rydym yn prosesu eich data personol i gyflawni ein swyddogaethau statudol yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu gan ein bod wedi cael ein sefydlu gan Ddeddf Seneddol ac mae'n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith i gyflawni'r swyddogaethau hyn, o dan gyfraith Diogelu Data ni chaniateir i ni brosesu eich data personol oherwydd bod y prosesu yn angenrheidiol i gyflawni tasg a gynhelir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol wedi'i freinio yn y rheolydd.’
 
Rhaid i ni allu prosesu eich data personol er mwyn darparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnoch. Nid ydym yn gofyn am eich cydsyniad i brosesu eich gwybodaeth i'n galluogi i gyflawni ein swyddogaethau statudol oherwydd pe byddech yn gwrthod ni fyddem yn gallu darparu gwasanaeth gofal iechyd priodol i chi.

Mewn rhai achosion byddwn am brosesu eich data personol am resymau y tu hwnt i'n swyddogaethau statudol. Pan fyddwn am wneud hyn, byddwn yn gofyn am eich cydsyniad i brosesu'r data personol sydd eu hangen arnom (e.e. os ydym am gymryd a defnyddio eich ffotograff yn ein deunyddiau marchnata, neu os ydych am danysgrifio i gylchlythyr). Yn yr achosion hyn pan fyddwch yn rhoi eich cydsyniad dywedir wrthych sut y caiff eich data personol eu prosesu. Byddwch hefyd yn cael gwybod sut y gallwch dynnu'r cydsyniad hwnnw yn ôl ac optio allan o brosesu pellach.