Neidio i'r prif gynnwy

Sut rydym yn defnyddio eich data personol

Rydym am i chi a'ch teulu fwynhau'r gofal iechyd gorau posibl yng Nghymru ac rydym yn prosesu'r data personol sydd eu hangen arnom i'n helpu i gyflawni hyn. Rydym dim ond yn prosesu'r lleiafswm o ddata personol sydd ei angen arnom i gyflawni'r dasg rydym yn ei chynnal.
 
Ar y cyfan, rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion sy'n uniongyrchol gysylltiedig â sicrhau eich bod yn cael gofal iechyd o safon uchel drwy'r GIG. Fodd bynnag, rydym yn eu prosesu am resymau cyffredinol eraill, fel:

  • Darparu gwybodaeth i chi rydych wedi gofyn amdani
  • Ymdrin â'ch ymholiadau
  • Darparu mynediad i rai rhannau o'n gwefannau
  • Rhoi gwybod i chi am wasanaethau a allai fod yn berthnasol i chi
  • Os byddwch yn gwneud cais i weithio i ni
  • Archwilio'r defnydd o'n systemau a'n gwefannau
  • Ymdrin â chwynion a phryderon